Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Er bod nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau sector gyhoeddus wedi’u hymrwymo i fynd i’r afael a’r Argyfwng Hinsawdd drwy ymdrechion i gyrraedd Sero Net, maent hefyd yn wynebu heriau economaidd a’r angen i weithredu ar flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd eraill. Hyd yma, yn aml mae ymatebion gwyddonol a pholisi yn gweithredu ar wahân, gan gyfyngu’r potensial ar gyfer datrysiadau sydd wedi’u hintegreiddio i heriau amrywiol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cynsail grymus ar gyfer meddwl cyd-gysylltiedig, ac mae yna fomentwm cynyddol mewn dulliau system-gyfan sy’n cydnabod y cysylltiadau cymhleth sy’n gynhenid i weithredu hinsawdd. Mae’r prosiect Buddion Lluosog Sero Net yn adeiladu ar y sylfaen hwn, gan ganolbwyntio ar y Gymru wledig er mwyn archwilio sut mae ymdrechion Sero Net yn gallu cynhyrchu buddion lluosog sy’n ategu at ei gilydd. Ei amcan yw adnabod gweithredoedd ‘aml-ddatrysiad’ sy’n mynd i’r afael a nwyon tŷ gwydr ynghyd a heriau ehangach sosio-economaidd ac amgylcheddol, ac archwilio’r amodau sy’n caniatáu dulliau o’r fath, gan sicrhau fod gweithredoedd hinsawdd yn helpu i gefnogi pontio cyfiawn a chynhwysol. Bydd yr ymchwil yn datblygu map systemau er mwyn gwneud yn weladwy’r cyfleoedd ar gyfer Sero Net yn y Gymru Wledig, gan adnabod blaenoriaethau allyriadau allweddol, rhyngddibyniaethau a chyfnewidiadau blaenorol.  Bydd crynodeb o’r llenyddiaeth yn bwrw golwg ar ardaloedd gellid gweithredu arnynt ac yn adnabod astudiaethau achos perthnasol. Bydd cyfweliadau ansoddol yn cael eu cynnal gydag ymarferwyr a chymunedau ar sut i weithredu o blaid yr hinsawdd a datgloi buddion lluosog ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.