Labordai Arloesi
Y Tîm: Rachel Tuckett, Ruth Stevenson, Amie Andrews, Siobhan Maderson, Aimee Morse, Huw Lewis, James Lewis, Matt Reed ac Owain Lewis.
Nod Labordai Arloesi Cymru Wledig LPIP Rural Wales yw datblygu a phrofi atebion arloesol i oresgyn rhwystrau i newid. Mae pedwar Labordy Arloesi, pob un yn canolbwyntio ar her sy’n gysylltiedig ag un o themâu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, yn cynnwys cyfranogwyr rhanddeiliaid mewn cyfres o weithdai i nodi nodau dymunol, trafod rhwystrau i gyflawni’r nodau hyn, ac archwilio atebion posibl. Dewisir un ymyrraeth fesul Labordy i’w phrofi gyda phartner dros gyfnod o 12 mis a’i werthuso.
Yr heriau y mae’r Labordai Arloesi yn eu targedu yw:
- Cymru lle mae garddwriaeth sy’n gyfeillgar i natur, sero net, yn cael ei chefnogi a’i gwobrwyo
- Adeiladu cartrefi, hapusrwydd a chymuned yng nghefn gwlad Cymru: mynd i’r afael â’r prinder llafur ar draws y diwydiant adeiladu
- Cymru Wledig lle mae cyfleoedd i dyfu, coginio a bwyta gyda’n gilydd ag amrywiaeth eang o bobl, mewn lleoliad fforddiadwy, cyfforddus a chynhwysol
- Cymru Wledig lle mae chwaraeon yn cael eu defnyddio i gefnogi a chynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg