Astudiaethau Targedig
Mae ein hastudiaethau wedi’u targedu yn ffocysu ar faterion lle mae yna fylchau yn y dystiolaeth bresennol a ganfuwyd gan ein rhanddeiliaid a’n partneriaid yn y Grwpiau Thematig. Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan naill ai ein tîm o academyddion Cymru Wledig LPIP Rural Wales neu’n cael ei gontractio i ymchwilydd allanol drwy broses cystadleuol. Gall yr astudiaethau hyn gynnwys casglu data o’r newydd (er enghraifft drwy gyfweliadau, arolygon neu grwpiau ffocws), neu ddadansoddiad o ddata parod. Mae pob astudiaeth yn cynhyrchu Adroddiad Terfynol a Briff Polisi, gydag argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwil.