
Ar yr 20fed o Fai fe wnaethom ni gynnal ein Labordy Arloesi cyntaf wyneb yn wyneb ar safle Holden Farm Dairy. Roedd y lleoliad hardd hwn yn safle gwych ar gyfer trafodaethau hynod ddiddorol oedd yn canolbwyntio ar les a bwyd. Treuliwyd y diwrnod yn archwilio sut y gallwn lunio Cymru Wledig sy’n llawn cyfleoedd bywiog i dyfu, coginio, a bwyta gyda’n gilydd mewn dulliau sy’n cynorthwyo lles a chymuned. Hoffai’r tîm diolch i bawb a ymunodd â ni a chymryd rhan ac am eu cyfraniadau gwerthfawr wrth ystyried lle yr ydym ni ar hyn o bryd, a ble rydym eisiau bod yn y dyfodol – bydd eich mewnwelediadau a syniadau’n ein helpu i baratoi ar gyfer y camau nesaf wrth ddatblygu’r rhaglen.
Roedd uchafbwyntiau’r diwrnod yn cynnwys:
- Sesiwn ‘Sgwrs a Sleisio’ gyda Polly o Cegin y Bobl—diolch am ddod â phobl at ei gilydd trwy fwyd a sgwrs;
- Dro fferm ysbrydoledig gyda Beccy, ein gwesteiwr a ffermwr, a rannu ei chysylltiad dwfn â’r tir a’r anifeiliaid, sut ysbrydolodd cerddor iddynt hau grawn hynafol, a sut mae caws Cymreig yn creu cysylltiadau byd-eang tra’n darparu bwyd lleol;
- Rhannu arbenigedd a rhedeg sesiwn gwych gan James Lewis o Brifysgol Caerdydd.
Dyma’r dechrau yn unig! Rydym yn gyffrous am y daith o’n blaenau wrth i ni barhau i gyd-greu arloesedd ar gyfer Cymru Wledig, gyda chymorth Tîm y Labordy Arloesedd yn y Ganolfan ar gyfer Technoleg Amgen Centre for Alternative Technology. Fel y dywedodd un cyfranogwr:
‘Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig, yn annog meddwl, ac fe aethom oddi yno gyda’r teimlad mai heddiw oedd dechrau taith iawn gyffrous! Diolch am y gwaith anhygoel rydych yn ei wneud, rwyf eisoes yn edrych ymlaen at y gweithdy nesaf.’
Os oes gan unrhyw sefydliadau neu bobl, o Geredigion, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro ddiddordeb neu ydych yn ymwybodol o rhywun y byddai a diddordeb cymryd rhan yn y gweithdai, rhowch wybod i ni!