Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Y Tîm: Jessie Buchanan, Amy Nicholass, Abby Poulson.

Nod ein Hymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned yw rhoi’r adnoddau i gymunedau gwledig i gasglu a dadansoddi tystiolaeth i fynd i’r afael â heriau ac anghenion polisi a nodwyd yn lleol. Gan weithio gyda mentor academaidd penodedig, mae cyfranogwyr cymunedol yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar fater o’u dewis, yn casglu ac yn dadansoddi data ac yn cytuno ar gamau dilynol. Rydym yn rhagweld y gellid defnyddio canlyniadau’r ymchwil i ddod o hyd i atebion y gellir eu cyflwyno o fewn y gymuned, i gefnogi ceisiadau am gyllid allanol, neu i gyflwyno achos dros fuddsoddi neu newidiadau polisi i lywodraeth leol neu genedlaethol neu i asiantaethau cyhoeddus.

Mae cam cyntaf yr ymchwil wedi cynnwys gweithio mewn pump cymuned beilot yng Nghorwen (mewn partneriaeth â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych), ardal Biosffer Dyfi (mewn partneriaeth Biosffer Dyfi), y Drenewydd, penrhyn Tyddewi, a Thrawsfynydd.

Yn yr ail gam, bydd Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn ariannu ac yn cefnogi ymchwil gweithredu dan arweiniad y gymuned mewn chwe phrosiect pellach, a ddewisir trwy gystadleuaeth sy’n agored i unrhyw gymuned yng Nghefn Gwlad Cymru.

Galwad am geisiadau: Prosiectau Ymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cynnig cyllid o £20,000 yr un i chwe chymuned yng Nghefn Gwlad Cymru i gynnal ymchwil ar bwnc sy’n bwysig i’r gymuned a all wneud gwahaniaeth yn lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn mewnwelediad, arbenigedd a chefnogaeth gan fentor academaidd ynghyd â hyfforddiant ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau ymchwil, casglu gwybodaeth (megis dylunio arolygon, cynnal cyfweliadau, mapio), dadansoddi data, ac adrodd a defnyddio canlyniadau. Mae’r cyllid a’r gefnogaeth fentora ar gael o Hydref 2025 i Orffennaf 2026.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 29 Awst 2025

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais ewch i tfc.cymru