Prif ffrydio cydraddoldeb a chynhwysiant
Y Tîm: Sara MacBride Stewart, Alison Parken, Michael Jonas, Sheree Jonas
Wrth galon holl waith Cymru Wledig LPIP Rural Wales mae egwyddor graidd o gynhwysiant. Rydym eisiau i’n gwaith ymateb i fuddiannau ac anghenion grwpiau amrywiol sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru a bod o fudd i bawb. I gefnogi’r uchelgais hon, mae Prif Ffrydio Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn annog ac yn rhoi’r adnoddau i’n tîm i ymgorffori meddwl am gydraddoldeb a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau, gan weithio trwy grŵp o Hyrwyddwyr Cydraddoldeb sydd wedi’u hymgorffori yn ein ffrydiau gwaith a’n Grwpiau Thematig. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai gyda grwpiau sydd wedi’u hymylu’n gonfensiynol neu heb gynrychiolaeth ddigonol i hwyluso eu mewnbwn i raglen waith Cymru Wledig LPIP Rural Wales ac i gefnogi unigolion i gymryd rhan yn y Grwpiau Thematig neu’r Labordai Arloesi neu i wneud cais am leoliadau.