Synergedd Data, Dadansoddi a Mapio
Y Tîm: Scott Orford, Jeff Morgan, Andrew Price
Nod gwaith Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar Synergedd Data, Dadansoddi a Mapio yw cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr trwy integreiddio adnoddau data presennol, mapio a delweddu data i wella hygyrchedd, a chynnal dadansoddiad pwrpasol newydd o ddata’r Cyfrifiad a data arall ar faterion allweddol.
Rydym yn adeiladu Hwb Data Cymru Wledig gyda dangosfyrddau a rhyngwynebau mapio a fydd yn dwyn ynghyd wybodaeth o ystod o setiau data ar Gymru Wledig fel adnodd un stop. Bydd Hwb Data Cymru Wledig yn caniatáu i ddefnyddwyr ddarganfod, llywio, archwilio a rhyngweithio ag ystod eang o ddata sy’n berthnasol i bolisïau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Dolenni i brosiectau ac adnoddau cysylltiedig sy’n cynnwys Tîm Data Cymru Wledig LPIP Rural Wales:
- Llwyfan Map Cyhoeddus – prosiect mapio cymunedol yn Ynys Môn
- Deall Lleoedd Cymru – dod o hyd i ddata ar drefi yng Nghymru a’i gymharu
- Porth Data WISERD – archwilio data o ymchwil ar Gymru