Ymgysylltu â’r cyhoedd, cyfnewid gwybodaeth ac adeiladu gallu
Y Tîm: Rhian Curtis, Meilyr Ceredig, Wyn Morris
Prif bwrpas Cymru Wledig LPIP Rural Wales yw cynnal ymchwil ac arloesi er budd cymunedau yng Nghefn Gwlad Cymru, gan gynhyrchu tystiolaeth ac atebion y gellir eu defnyddio gan y llywodraeth, asiantaethau cyhoeddus, ymarferwyr, sefydliadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol. O’r herwydd, mae ymgysylltu â’r cyhoedd a meithrin gallu yn ganolog i’n gwaith.
Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru; paneli, gweithdai, sgyrsiau a seminarau ar-lein ac wyneb yn wyneb; a chynhyrchu adroddiadau ac adnoddau sydd ar gael i unrhyw un eu defnyddio. Rydym wedi meithrin cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, ASau a chynghorau i ddarparu tystiolaeth a all gynorthwyo eu gwaith a gwneud argymhellion ar gyfer polisi.
Rydym hefyd yn cynllunio gweithdai meithrin gallu ar gyfer ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr ar bynciau fel defnyddio tystiolaeth mewn polisi neu ymgysylltu â chymunedau.
Yn 2026, byddwn yn cynnal cyfres o bedwar ‘Deialog’ yn cynnwys rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cymunedol i weithio tuag at atebion consensws ar gyfer ‘problemau drwg’ ar gyfer polisi gwledig yng Nghymru, wedi’u llywio gan dystiolaeth a gasglwyd yn rhaglen waith LPIP.