Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Mae’r Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Weledig (Cymru Wledig LPIP Rural Wales) wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal gweithdy yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd er mwyn trafod y prosiect gyda’r rheini sydd â diddordeb i ddysgu mwy ynghylch amcanion y gwaith.

Mae’r fenter, sy’n cael ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth, yn gwahodd unigolion sydd ynghlwm a busnesau gwledig, cynghorwyr a’r rheini sydd â diddordeb mewn datblygiad economaidd i gymryd rhan mewn trafodaeth ynghylch twf gwledig.  Mae’r trefnwyr yn eiddgar i ddysgu o’r rheini sydd yn mynychu a chael gwybod beth yw eu blaenoriaethau o ran twf a pha heriau yr ydynt yn gweld sy’n ei atal.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth rhwng 9:30 a 10:45yb ar 23 Gorffennaf 2024. Mae gofodau yn gyfyngedig ond gallwch archebu lle drwy e-bostio LPIP@aber.ac.uk.