Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Bwriad yr ymchwil hwn oedd adnabod sut y mae twf, yn nhermau datblygiad busnes a chymunedol, yn cael ei ddirnad gan y rheini sy’n byw a gweithio mewn trefi gwledig yng Nghymru. Defnyddiwyd astudiaethau achos Llanidloes (Canolbarth Cymru) a Llangefni (Gogledd Cymru) i archwilio canfyddiadau ynghylch twf a sut gellir cefnogi mentergarwch yn y lleoliadau hyn, drwy wella dealltwriaeth ynghylch yr hyn y mae twf a datblygiad yn meddwl i’r rheiny sy’n byw yno.

Yr hyn a ddaw’n amlwg yw bod y gefnogaeth ar gyfer dull traddodiadol o feddwl am dwf yn y modd ‘tuag i fyny’, hynny yw yn nhermau ehangu a chynyddu elw, cynhyrchiant neu gyrhaeddiad marchnad, yn gyfyngedig iawn. Yn hytrach, mae cymunedau a busnesau bach yn deall twf fel modd o wella sefydlogrwydd busnes ac ansawdd bywyd. Mewn ardaloedd gwledig yn enwedig, gall entrepreneuriaid ddechrau busnesau er mwyn caniatáu modd penodol o fyw (cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith) neu er mwyn bod mewn lleoliad penodol, ac mae ‘twf busnes’ confensiynol yn llai o flaenoriaeth.

Drwy ddulliau ymchwil meintiol, gan ddefnyddio arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai, datgelwyd nifer o safbwyntiau gwahanol ynghylch twf, ac fe wnaeth dadansoddiad thematig gategoreiddio’r rhain i saith ‘math’ o dwf, gan gynnwys twf fel modd o adeiladu cymuned, twf drwy gyfle a thwf sylfaenol.

I gymunedau Llanidloes a Llangefni, ystyr twf oedd bod yn well nid bod yn fwy, ac roedd yn ymdrech oedd yn gysylltiedig i werthoedd megis cymuned, cynaliadwyedd, modd o fyw, lle ac ansawdd bywyd da.

Mae sawl argymhelliad polisi yn deillio o’r dadansoddiad, gan gynnwys teilwra mentrau twf i lefydd penodol, adnabod budd economaidd perchnogaeth gymunedol, cefnogi entrepreneuriaeth sy’n seiliedig ar ffordd o fyw, buddsoddi yn yr economi sylfaenol a mabwysiadu dangosyddion lleol ar gyfer twf.