Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Mae’r elfen Polisi sy’n rhan o amcanion Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn gwbl hanfodol i’n dyhead i sicrhau newid yng nghymunedau gwledig Cymru. Gan ddefnyddio’r data, y dystiolaeth, a’r mewnwelediadau a gafwyd drwy’r prosiectau, rydym wedi datblygu cyfres o bapurau briffio polisi, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi llunwyr polisi ar bob lefel llywodraeth a’r rheiny sydd am sicrhau newid polisi. Mae’r briffiau hyn yn casglu’r prosiectau yn gyfres o argymhellion ymarferol y gellir eu gweithredu er mwyn cefnogi’r rhai sydd â’r potensial a’r dylanwad i sicrhau newid gwirioneddol. Dyma newid a gefnogir gan dystiolaeth.

Gweler isod y papurau briffio ar bolisi sydd ar gael i’w lawrlwytho. I gael copïau o’r adroddiadau llawn, ewch i’n hadran Adnoddau.

Am fwy o wybodaeth am ymgysylltu â pholisi, ewch i’n tudalen Diweddariadau.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod unrhyw un o’r argymhellion yn y dogfennau hyn.

Adeiladwaith ac Economi Atgynhyrchiol Cymru

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith ehangach gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Ei nod oedd cyd-ddylunio atebion ymarferol i wrthweithio’r diffyg yng ngweithlu sector adeiladwaith y Gymru wledig ac ymdrin â’r heriau mae hyn yn greu i economi sylfaen Cymru.

Gwella Lles yn ei Le drwy Fwyd a Chymuned

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith ehangach gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar y thema Gwella Lles yn ei Le. Mae’n edrych ar sefyllfa bwyd a llesiant yng Nghymru fel y mae ar hyn o bryd er mwyn llunio cynigion ar gyfer sut i wella a datblygu’r sector hwn.

Tyfu sector garddwriaeth Cymru trwy arloesedd

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith ehangach gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar gefnogi’r trosi i Sero Net. Mae’n edrych i mewn i statws cyfredol y sector garddwriaeth fwytadwy yng Nghymru ac yn argymell cynigion am sut i gefnogi a datblygu’r sector hwn.

Grymuso Cymunedau ar gyfer Gwydnwch Diwylliannol drwy’r Gymraeg mewn Chwaraeon

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith ehangach gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar y thema Grymuso Cymunedau ar gyfer Gwydnwch Diwylliannol. Mae’n edrych ar y sefyllfa sydd ohoni o ran defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn y byd chwaraeon ar Ynys Môn, yn ogystal â llunio ymyriadau ymarferol ac arloesol i annog defnyddio’r Gymraeg mewn lleoliadau chwaraeon.

Treftadaeth Fyw yng Nghymru Wledig

Mae’r briff polisi hwn yn darparu argymhellion sy’n gallu cael eu gweithredu ar raddfeydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i gryfhau’r amodau sy’n galluogi treftadaeth fyw i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Amlddatrys ar gyfer Sero Net yng Nghymru Wledig

Mae’r briff hwn yn cyflwyno ffordd ymarferol ymlaen: defnyddio camau ‘amlddatrys’ – sy’n lleihau’r allyriadau ac, ar yr un pryd, yn cyflawni buddion sy’n bwysig i bobl, megis biliau is, cartrefi iachach, gwell opsiynau trafnidiaeth, natur a diwylliant ffyniannus, ac economïau lleol cryfach.

Camau nesaf i fenywod o ran arallgyfeirio yn y maes ffermio yng Nghymru

Mae’r polisi hwn yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer menywod ym maes arallgyfeirio ffermio yng Nghymru.

Deall twf o safbwynt gwledig

Nod y gwaith ymchwil hwn oedd adnabod sut y mae’r sawl sy’n byw ac yn gweithio mewn trefi gwledig yng Nghymru yn canfod twf o ran busnes a datblygu cymunedol.

Papur Briffio Maniffestos – Polisiau gwledig

Lluniwyd y Papur Briffio Maniffesto hwn gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales, gyda’r nod o gynnig awgrymiadau i bob plaid wleidyddol ar gyfer polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’n gwaith a phrosiectau ymchwil cysylltiedig, gan fod y pleidiau wrthi’n ysgrifennu eu maniffestos cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2025.

Gan ei bod yn fenter ymchwil wrthrychol, nid yw Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cynrychioli unrhyw fuddiant personol. Nid yw’r Papur Briffio Maniffesto yn cyflwyno cyfres o ‘ofynion’, ond yn hytrach yn cynnig 33 o syniadau polisi a allai wneud gwahaniaeth.

Gallwch lawrlwytho’r ddogfen friffio yma, ac mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr argymhellion neu os gallwn eich cefnogi i ddatblygu polisïau yn y dyfodol.