Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Mae menywod yn chwarae rôl bwysig ym myd amaeth cyfoes yn enwedig wrth arallgyfeirio gweithgareddau’r fferm er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol. Eto, nid yw’r effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar – a gan – fenywod wrth arallgyfeirio fferm, a sut y mae hyn yn croestorri a pholisi, wedi’i ddeall yn iawn. Nod yr astudiaeth felly oedd archwilio ymhellach dyletswyddau a gweithgareddau menywod wrth arallgyfeirio ffermydd, gan gynnwys y rheini yn mynd i’r afael a heriau amgylcheddol, a sut y mae menywod yn adeiladu a rhannu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer arallgyfeirio

Yn rhan o’r ymchwil, cyfwelwyd 29 o fenywod sy’n weithredol wrth arallgyfeirio fferm yng Nghymru, gyda rhai o’r rhain yn cynrychioli sefydliadau ffermio hefyd. Fe wnaeth bron i bob un o’r menywod nodi eu bod yn cymryd rhan mewn arallgyfeirio ar ffermydd, ond ni wnaeth bob un ddweud eu bod yn ffermwyr. Roedd y gweithgareddau a ddiffiniwyd gan y cyfranogwyr fel arallgyfeirio yn eang, ac yn cynnwys mathau o weithgaredd economaidd ar y fferm ac oddi ar y fferm hefyd. Prif nod arallgyfeirio oedd sicrhau parhad economaidd y fferm, oedd yn cynnwys yr elfennau amaethyddol a busnes, ond hefyd y bobl, anifeiliaid a’r natur oedd yn byw yno.

Fe wnaeth ein dadansoddiad cychwynnol ganolbwyntio ar effaith polisïau, ac ystod eang o ystyriaethau megis llafur, amser, sgiliau a chyfrifoldebau menywod. Mae’r arferion a’r rolau sydd fwyaf amlwg yn gyffredinol yn adlewyrchu agweddau o arallgyfeirio economaidd sy’n cael eu cefnogi gan grantiau a pholisïau lleol. Mae dadansoddi rhywedd yn datgelu fod y costau cynyddol ar amser a llafur menywod, gyda newidiadau yn y penderfyniadau ynghylch arallgyfeirio yn adlewyrchu’r math o gefnogaeth a’r mentora sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau ffermio eraill.

Mae’r astudiaeth yn dangos yr angen ar gyfer amaethyddiaeth sy’n fwy sensitif i ardaloedd penodol a pholisïau datblygu gwledig yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r gwahanol gyd-destunau y ceisir arallgyfeirio ffermydd, ynghyd a pholisïau sy’n cydnabod y cyfraniadau penodol y mae entrepreneuriaid benywaidd wrth arallgyfeirio ffermydd a’r heriau maent yn eu hwynebu.