Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (Cymru Wledig LPIP Rural Wales) am wahodd ceisiadau gan ymchwilwyr ym mhrifysgolion y DU i gynnal prosiect ymchwil byr i fynd i’r afael â mater sy’n ymwneud ag economi, cymdeithas neu ddiwylliant Cymru wledig pan fo rhanddeiliaid wedi nodi’r angen am ddata, tystiolaeth ac/neu ddadansoddiad pellach i gefnogi llunio polisïau effeithiol.

Dyma’r pynciau yr ydym yn gwahodd cynigion arnynt:

  1. Dynameg y farchnad lafur yng nghefn gwlad Cymru: swyddi gwag, cyfleoedd a heriau recriwtio
  2. Clystyru daearyddol sectorau busnes yng nghefn gwlad Cymru
  3. Cyflogaeth a darpariaeth y Sector Gofal yng nghefn gwlad Cymru
  4. Mapio rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau llesiant y trydydd sector a chymunedau yng Nghymru
  5. Cyfraniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol diffoddwyr tân ar alwad yng nghefn gwlad Cymru
  6. Modelau Busnes ar gyfer Mentrau Cymunedol
  7. Beth allwn ni ei ddysgu o sut mae mudiadau cymunedol a diwylliannol yn ymgysylltu ac yn gweithredu polisïau sero net?
  8. Deall gweithwyr llawrydd creadigol yng nghefn gwlad Cymru
  9. Y Gymraeg yn galluogi neu’n rhwystro mewn prosiectau cydweithredol
  10. Modelu’r galw am lafur a sgiliau ar gyfer cyflawni Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru wledig
  11. Manteisio ar Fuddion Cymdeithasol Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy sy’n Berchen i’r Gymuned
  12. Sut y gallai gwarant Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol weithio i Gymru Wledig?
  13. Modelau ar gyfer Cryfhau Prawfesur Gwledig yng Nghymru
  14. Cynrychiolaeth o Fuddiannau Cymunedol Gwledig yng Nghymru
  15. Hyrwyddo Cyfnerthedd Diwylliannol a Llesiant ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Mae briff ar gyfer pob un o’r pynciau hyn i’w gael isod. Dylai prosiectau ymchwil fynd i’r afael â gofynion y briff a gwahoddir ymgeiswyr i lunio a chynnig strategaeth a methodoleg ymchwil sy’n briodol i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Rhagwelir y bydd y prosiectau’n cynnwys ymchwil desg ac ar-lein yn bennaf, gan gynnwys dadansoddi data eilaidd, ond mae cyfle i gasglu rhywfaint o ddata cynradd newydd, er enghraifft trwy gyfweliadau, grwpiau ffocws neu arolygon, o fewn yr amser a’r cyllid sydd ar gael.

Dylid cwblhau prosiectau dros gyfnod o ddim mwy na chwe mis, gyda chyllid o hyd at £15,000 o’r gost economaidd lawn ar gael i gefnogi’r gwaith. Dyfernir hyd at ddeg prosiect, ac un prosiect yn unig ar bob pwnc a gaiff gyllid.

Mae’r Alwad hon am Gomisiynau yn rhan o raglen Partneriaethau Polisi ac Arloesi Lleol a ariennir gan yr UKRI ac felly rheoliadau’r UKRI sy’n pennu’r meini prawf cymhwystra, telerau ariannu ac amodau eraill y cyllid, fel yr amlinellir isod. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar ein gwefan.

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi mewn prifysgol neu sefydliad ymchwil arall a gydnabyddir gan yr UKRI. Nid oes angen i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru.

Cyllid

Mae hyd at £15,000 o’r gost economaidd lawn (FEC) ar gael ar gyfer pob prosiect. Yn dilyn rheolau cyllido’r UKRI, telir grantiau ar 80% o’r gost economaidd llawn. Gellir defnyddio’r grant ar gyfer unrhyw eitem o wariant a ganiateir o dan reolau’r UKRI, ac eithrio ysgoloriaethau PhD. Er enghraifft, gellir defnyddio cyllid i dalu am amser ymchwilwyr (costau a ddyrannir yn uniongyrchol), costau wedi’u hysgwyddo’n uniongyrchol am staff, nwyddau traul teithio ac ymchwilio, yn ogystal â chostau anuniongyrchol yn unol â thelerau ariannu arferol yr UKRI.

Adroddiadau, Data ac Eiddo Deallusol

Ar ddiwedd y cyfnod a ariennir bydd gofyn i ddeiliaid prosiectau lunio a chyflwyno adroddiad ymchwil a Chrynodeb Polisi, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu gan Weithrediaeth Cymru Wledig LPIP Rural Wales a’u cyhoeddi ar eu gwefan ac yn Hwb Data Cymru Wledig. Ar gyfer rhai pynciau mae gofynion ychwanegol ar gyfer allbynnau, fel y nodir yn y briffiau isod.

Deiliad y prosiect fydd yn berchen ar y canlyniadau ac unrhyw eiddo deallusol arall a gynhyrchir gan yr ymchwil a bydd ganddo hawl i gyhoeddi o’r gwaith, yn amodol ar gydnabyddiaeth briodol am y cyllid. Bydd gofyn i ddeiliad y prosiect roi trwydded heb gyfyngiadau iddi, na ellir ei throsglwyddo na’i his-drwyddedu, heb freindal, i Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar gyfer defnyddio’r canlyniadau at ddibenion ymchwil academaidd ac anfasnachol, er enghraifft yn Adroddiad Blynyddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales.

Dylai data a gynhyrchir gan yr ymchwil, o fewn rheswm, fod ar gael i’w archifo a bod mynediad cyhoeddus iddo yn Hwb Data Cymru Wledig, yn amodol ar fesurau priodol i barchu cyfrinachedd ac anhysbysrwydd cyfranogwyr ymchwil. Yn unol â gofynion yr UKRI, dylid cynnig data i Wasanaeth Data’r DU i’w archifo hefyd.

Ardal ddaearyddol

Diffinnir ardal graidd Cymru wledig gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales i fod yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg. Fodd bynnag, cydnabyddir, ar gyfer rhai pynciau, y gallai fod yn briodol i ymchwil a dadansoddi gynnwys wardiau neu ardaloedd allbwn mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi’u categoreiddio yn rhai gwledig yn nosbarthiad gwledig-trefol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Y broses ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein sydd ar gael yma, erbyn 09:00 ar ddydd Llun 16 Chwefror 2026.

Mae’r ffurflen gais ar-lein yn gofyn am fanylion (i) y pwnc dan sylw; (ii) dulliau a’r ffordd arfaethedig o drin y pwnc, gan gynnwys ffynonellau data, technegau ar gyfer casglu ac/neu ddadansoddi data, astudiaethau achos (os yw hynny’n berthnasol), ac allbynnau; (iii) arbenigedd a phrofiad perthnasol yr ymchwilydd/ymchwilwyr, gan gynnwys cyhoeddiadau a grantiau perthnasol, a phrofiad blaenorol o ymchwil neu ymgysylltu sy’n gysylltiedig â’r maes polisi: (iv) costau cyllideb; (v) asesiad risg; a (vi) amserlen ddangosol. Gellir dod o hyd i gopi pdf o’r ffurflen gais yma er gwybodaeth, ond rhaid cyflwyno’r cais drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Caiff pob cais ei adolygu gan gymheiriaid gan gronfa o adolygwyr sy’n aelodau o dîm a Bwrdd Cynghori Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Bydd dyfarniadau’n cael eu gwneud gan banel sy’n cynnwys yr Athro Michael Woods (Cyfarwyddwr, Cymru Wledig LPIP Rural Wales), yr Athro Thora Tenbrink (Arweinydd, ffrwd gwaith Ymchwil Ymatebol), a thri aelod o Fwrdd Cynghori Cymru Wledig LPIP Rural Wales (dau academaidd ac un o’r sector polisi).

Meini prawf asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol: (1) dealltwriaeth o’r broblem ymchwil a chyd-destun polisi; (2) pa mor addas yw’r dulliau a ffyrdd o fynd ati a gynigir; (3) arbenigedd yr ymchwilydd/ymchwilwyr ar y pwnc; (4) profiad yr ymchwilydd/ymchwilwyr o gynnal ymchwil mewn amser byr ac/neu sy’n berthnasol i bolisïau; (5) hyfywedd ac ymarferoldeb cynnal y gwaith arfaethedig o fewn yr amser a’r gyllideb sydd ar gael.

Os nad ystyrir bod unrhyw ymgeiswyr ar bwnc yn bodloni’r trothwyon gofynnol ar y meini prawf hyn, ni roddir unrhyw gyllid ar gyfer y pwnc hwnnw. Un dyfarniad cyllid a roddir i bob pwnc.

Amserlen

TaskDate
Hysbysebu’r alwad5 Ionawr 2026
Dyddiad cau derbyn ceisiadau16 Chwefror 2026
Gwneud y penderfyniad cyllidoerbyn 6 Mawrth 2026
Ymchwil i ddechrau1 Ebrill 2026
Cyllid yn gorffen ac adroddiad i’w gyflwyno30 Medi 2026

Briffiau ar gyfer comisiynu allanol ar Brosiectau Ymchwil Ymatebol

1) Dynameg y farchnad lafur yng nghefn gwlad Cymru: swyddi gwag, cyfleoedd a heriau recriwtio

Amcan yr ymchwil hwn yw ymchwilio i’r sefyllfa sydd ohoni yn y farchnad lafur yng nghefn gwlad Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y math o gyfleoedd sydd ar gael gan gyflogwyr lleol (e.e. sector, natur y gwaith, lefel cyflog, cymwysterau gofynnol, gallu yn y Gymraeg), yn ogystal â swyddi gwag newydd, gan nodi’r rolau a’r swyddi y mae cyflogwyr yn ei chael hi’n anoddach recriwtio iddynt.

Mae argraff eang bod cyfleoedd cyflogaeth yn brin i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru, gan danio patrwm amlwg o allfudo. Canfu arolwg o dros 1,000 o bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn 2021 mai dim ond 22% oedd yn cytuno bod cyfleoedd cyflogaeth yn eu hardal leol yn dda, roedd 63% yn poeni am ddod o hyd i swydd addas yn eu hardal leol, ac roedd 81% yn meddwl y byddai angen iddynt symud i ffwrdd i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant. Ar ben hynny, dywedodd 69% y byddai mwy o swyddi sy’n gysylltiedig â’u gyrfa arfaethedig yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddent yn aros yn yr ardal. Fodd bynnag, pan grybwyllai ymatebwyr enghreifftiau o swyddi a gyrfaoedd penodol, roedd llawer mewn sectorau a gynrychiolir yng nghefn gwlad Cymru, ac/neu eu bod wedi bod yn ffocws buddsoddiad trwy’r Bargeinion Twf. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth anecdotaidd bod cyflogwyr mewn ardaloedd gwledig yn cael trafferth recriwtio gweithwyr addas a llenwi swyddi gwag, a hyn wedi’i gefnogi gan ddata arolwg sydd bellach wedi dyddio. Canfu arolwg Arsyllfa Wledig Cymru o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru yn 2013 fod 53% o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod hi’n anodd recriwtio gweithwyr sydd â’r sgiliau priodol a dywedodd 33% fod prinder ymgeiswyr am swyddi gwag.

Dylai’r ymchwil hwn gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynnil o ddeinameg gyfredol y farchnad lafur, a sut y gellir paru’r cyflenwad a’r galw yn well, trwy astudiaethau achos o ddwy neu dair ardal awdurdod lleol [neu Ardaloedd Teithio i’r Gwaith] yng nghefn gwlad Cymru (dylai un ohonynt fod yn Ynys Môn [neu Ardaloedd Teithio i’r Gwaith Caergybi / Bangor, Caernarfon a Llangefni], gyda’r llall/lleill i’w dewis gan yr ymchwilydd). Dylai fynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Beth yw proffil y swyddi gwag a hysbysebir ar hyn o bryd/a hysbysebwyd yn ddiweddar yn ardal yr astudiaeth achos?
  • Pa mor gyflym y mae swyddi gwag yn cael eu llenwi? A yw rhai mathau o swyddi gwag yn anoddach i recriwtio iddynt nag eraill? A yw cyflogwyr yn fodlon ar ba mor addas yw’r staff a recriwtiwyd i ateb eu gofynion?
  • Sut mae proffil y swyddi gwag yn cymharu â data sydd ar gael am broffil y gweithlu lleol / pobl ifanc yn yr ardal leol?

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Bydd data llawn o Arolwg Pobl Ifanc yng Nghefn Gwlad 2021 ar gael i’r ymchwilydd a bydd data sy’n dod o Arolwg Busnesau Cefn Gwlad Cymru Wledig LPIP Rural Wales, a drefnwyd ar gyfer mis Hydref 2025, yn cael ei rannu wrth iddo ddod ar gael.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) proffiliau cryno ar gyfer pob ardal astudiaeth achos y gellir eu rhannu â llunwyr polisi a swyddogion lleol; (c) argymhellion i awdurdodau lleol, Bargeinion Twf, Llywodraeth Cymru ac/neu gyrff priodol eraill i lywio polisïau a chamau gweithredu i wella’r cydweddiad rhwng cyfleoedd cyflogaeth / anghenion cyflogwyr a’r cyflenwad llafur yn lleol.

2) Clystyru daearyddol sectorau busnes yng nghefn gwlad Cymru

Amcan yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth o ddosbarthiad daearyddol busnesau mewn sectorau penodol yng nghefn gwlad Cymru ac ymchwilio i weld a oes tueddiadau i fusnesau o rai mathau glystyru gyda’i gilydd o fewn yr un ardal leol, ac os felly, pa sectorau busnes sy’n clystyru ymhle. Mae hefyd am edrych ar y manteision i fusnesau o glystyru a sut y gellir hyrwyddo neu gefnogi’r rhain trwy bolisi.

Mae’r egwyddor wedi’i hen sefydlu mewn daearyddiaeth economaidd bod buddion arloesi a chynhyrchiant yn deillio o fusnesau sy’n gweithredu mewn diwydiant neu sector penodol wrth gydleoli yn yr un ardal neu ranbarth ond fel arfer mae’r egwyddor honno wedi’i hastudio ar raddfa fetropolitan neu ranbarthol. Nid yw clystyru busnesau cysylltiedig ar raddfa lai mewn ardaloedd gwledig wedi’i ddogfennu na’i ddeall cystal, er bod tystiolaeth gyfoes hanesyddol ac anecdotaidd o rai ardaloedd gwledig yn adnabyddus am eu cysylltiad â diwydiannau neu sectorau penodol. Mae clystyru wedi’i ymgorffori ymhlyg mewn strategaethau datblygu economaidd yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys y Bargeinion Twf cyfredol, trwy flaenoriaethu sectorau penodol ar gyfer twf ac ymdrechion i ddenu cwmnïau/sefydliadau angori y disgwylir iddynt ysgogi datblygiad busnesau cysylltiedig. Yn yr un modd, roedd Gweledigaeth Wledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn 2021 wedi cynnig creu canolfannau ar gyfer gwahanol ddiwydiannau diwylliannol mewn trefi bach dethol yng nghefn gwlad fel angorau ar gyfer clystyrau o fentrau bach cysylltiedig a gweithwyr llawrydd. Er bod llawer o’r modelau hyn wedi’u canoli ar gwmni neu sefydliad angori, dylai’r ymchwil hefyd archwilio’r potensial i glystyrau ffurfio heb angor.

Dylai’r ymchwil ddarparu sylfaen dystiolaeth i fod yn sail i bolisi a rhaglenni datblygu economaidd, gan gynnwys dulliau sy’n seiliedig ar leoedd sydd o bosibl â’r nod o adeiladu ar glystyrau presennol neu rai sy’n datblygu, gan wneud hynny drwy’r canlynol:

  • Dadansoddi a mapio data ar fusnesau yng nghefn gwlad Cymru i nodi clystyrau daearyddol presennol busnesau yn yr un sector neu ddiwydiant.
  • Defnyddio astudiaethau achos i archwilio a yw’r clystyrau hyn yn cynnwys cydweithio swyddogaethol neu rwydweithio rhwng busnesau; y seilwaith a’r arferion sy’n cefnogi cydweithio neu rwydweithio; y ffactorau sy’n cyfrannu at ymddangosiad y clwstwr; a’r manteision a nodwyd gan fusnesau o fod yn rhan o glwstwr.
  • Defnyddio llenyddiaeth ehangach ac/neu enghreifftiau y tu hwnt i gefn gwlad Cymru i ategu’r dadansoddiad uchod wrth nodi’r potensial ar gyfer datblygu clystyrau busnes yng nghefn gwlad ac enghreifftiau o arfer da wrth hyrwyddo clystyrau a chynyddu eu manteision i fusnesau.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarperir; (b) argymhellion i awdurdodau lleol, Bargeinion Twf, Llywodraeth Cymru ac/neu gyrff priodol eraill i lywio polisïau a chamau gweithredu sy’n ymwneud â rôl bosibl clystyrau diwydiant neu sector mewn datblygiad economaidd.

3) Cyflogaeth a darpariaeth y Sector Gofal yng nghefn gwlad Cymru

Amcan yr ymchwil hwn yw cryfhau’r sail dystiolaeth ynghylch strwythur a hygyrchedd y sector gofal yng nghefn gwlad Cymru, ei gydnerthedd wrth i ddemograffeg newid, a phroffil cyflogaeth y sector, gan gynnwys problemau recriwtio a chadw staff. Dylai’r ymchwil ymwneud â gofal preswyl a gofal dydd i’r henoed ac i oedolion eraill sydd ag anghenion arbennig, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae cryn bryder ynghylch capasiti a chydnerthedd y sector gofal yng nghefn gwlad Cymru, ond prin yw’r data cadarn a chynhwysfawr am y sector. Mae gofal cymdeithasol wedi dod yn eitem gwario mawr i awdurdodau lleol, gyda’r cyfuniad o gostau cynyddol a gostyngiadau mewn cyllidebau yn arwain at benderfyniadau anodd ynghylch darpariaeth gyhoeddus. Mae diffyg cyfleusterau gofal arbenigol yn benodol mewn ardaloedd gwledig wedi golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol osod unigolion mewn cyfleusterau y tu allan i’r rhanbarth, yn aml am gost uchel. Ar yr un pryd, mae awgrymiadau bod y sector gofal preifat wedi crebachu, gyda Nation.Cymru yn adrodd bod 40 o gartrefi gofal i’r henoed wedi cau yng Nghymru rhwng 2020 a 2023, gyda dim ond pedwar cartref newydd yn agor. Mae ymgynghorwyr eiddo busnes Christie & Co wedi rhagweld prinder o 10,000 o welyau mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros y degawd nesaf. Mae heriau recriwtio a chadw staff wedi’u nodi yn ffactor sy’n cyfrannu at grebachiad darpariaeth gofal, gyda Fforwm Gofal Cymru yn tynnu sylw at gyflogi sylweddol ar weithwyr mudol nad ydynt o’r DU ac yn codi pryderon ynghylch effaith newidiadau arfaethedig i reoliadau mewnfudo ar recriwtio gweithwyr gofal o dramor ar y sector. Awgrymwyd bod darparwyr gofal mewn ardaloedd gwledig yn fwy agored i heriau recriwtio oherwydd marchnadoedd llafur lleol sy’n llai o faint, tra dwyseir effaith darparwyr gofal mewn ardaloedd gwledig yn cau gan seilwaith trafnidiaeth wael sy’n cyfyngu ar allu trigolion i deithio i ddarparwyr eraill.

Dylai’r ymchwil gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar y sector gofal yng Nghymru wledig trwy ddarparu data a dadansoddiad ar y canlynol:

  • Strwythur, lleoliad a chapasiti darpariaeth gofal cyhoeddus a phreifat yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys gofal preswyl a gofal dydd, a newidiadau diweddar.
  • Cyflogaeth yn y sector gofal yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys problemau recriwtio a chadw, swyddi gwag, a chyflogi pobl nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig.
  • Effeithiau prinder darpariaeth gofal, a newidiadau yn y ddarpariaeth, ar ba mor hygyrch yw gofal i drigolion cymunedau gwledig.
  • Heriau sy’n effeithio ar gydnerthedd y sector gofal, gan gynnwys newidiadau demograffig, costau llafur, a rheoliadau mewnfudo, a strategaethau a fabwysiadwyd gan y sector i gynllunio ar gyfer y ffactorau hyn neu eu lliniaru.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwilio a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarperir; (b) argymhellion i awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a darparwyr gofal preifat i gyfrannu at bolisi a chynllunio i’r dyfodol.

4) Mapio rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau llesiant y trydydd sector a chymunedau yng Nghymru

Amcan yr ymchwil hwn yw rhoi trosolwg o’r mentrau a’r rhwydweithiau cymunedol a thrydydd sector ar gyfer lles sy’n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru, ynghyd â nodi bylchau a gorgyffwrdd mewn darpariaeth a gweithgarwch, a llywio safbwyntiau ar sut y gellir darparu cefnogaeth i rwydweithiau lles y trydydd sector a’r gymuned yn fwy cydlynol a theg.

Mae mentrau a rhwydweithiau’r trydydd sector a’r gymuned yn bwysig wrth gefnogi a hyrwyddo’r agenda lles yng Nghymru, gan weithredu ar draws y saith nod lles a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â chwarae rhan allweddol yn galluogi gweithredu dan arweiniad y gymuned, cyfnewid gwybodaeth a chydweithio seiliedig ar le. Bu twf cyflym yn natblygiad rhwydweithiau a chynghreiriau ar lawr gwlad sydd naill ai’n seiliedig ar ddaearyddiaeth neu thema, ond gall mentrau fod yn ddatgysylltiedig ac yn rhannol. Er bod polisïau yng Nghymru yn hyrwyddo pwysigrwydd cyd-gynhyrchu, nid oes seilwaith cenedlaethol ar waith i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ymarferol ar gyfer newid effeithiol mewn lleoliadau cymunedol. Mae ymchwil diweddar gan Gyda’n Gilydd dros Newid (TfC) wedi tynnu sylw at fylchau systemig ar y lefel genedlaethol yn gysylltiedig â chyfleoedd i bobl ymgynnull o amgylch platfform ar gyfer newid sy’n darparu trosglwyddo gwybodaeth, lle i drafod a meithrin perthynas a chysylltiadau, a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau a chapasiti mewn ymchwil, data a gwerthuso. Mae’r bylchau hyn yn rhwystro gweithredu cydlynol ac effeithiol dan arweiniad y gymuned ar gyfer lles.

Ar hyn o bryd nid oes dealltwriaeth gynhwysfawr ynghylch nifer, natur, swyddogaeth na chyrhaeddiad daearyddol rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau lles dan arweiniad y gymuned a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae’r llywodraeth, ynghyd â sefydliadau angori sydd â rôl gefnogol wrth ddatblygu’r economi lles, angen trosolwg mwy cyflawn a manwl o’r dirwedd dan arweiniad y gymuned sy’n seiliedig ar leoedd ac sy’n newid yn gyflym, a hynny er mwyn deall ymhellach sut y gellir cefnogi newid effeithiol mewn ffordd gynaliadwy.

Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at yr agenda hon drwy archwilio rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau’r trydydd sector a’r gymuned ar gyfer lles yng Nghymru drwy wneud y canlynol:

  • Mapio rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau lles dan arweiniad y gymuned a’r trydydd sector sy’n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys eu nifer, eu cwmpas a’u dosbarthiad daearyddol; eu swyddogaeth, eu ffurf a’u haelodaeth; a’u ffynonellau cyllid.
  • Llunio trosolwg o strwythurau llywodraethu ac arferion sefydliadol rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau a’r ystod o weithgareddau a wneir neu a gefnogir ganddynt, gan gynnwys rolau mewn perthynas ag adeiladu capasiti, cyd-gynhyrchu, dysgu, rhannu gwybodaeth, ymchwilio, gwerthuso a dylanwadu ar bolisi.
  • Nodi bylchau a gorgyffwrdd mewn cwmpas ac archwilio ffactorau sy’n hyrwyddo neu’n cyfyngu ar ehangu ac/neu gydweithio pellach.
  • Ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau’r gymuned a’r trydydd sector ar gyfer lles, gan gynnwys digonolrwydd cyllid ac adnoddau, a strategaethau ar gyfer addasu neu liniaru.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarperir; (b) argymhellion ar gyfer mecanweithiau cymorth gwell ar gyfer defnyddwyr posibl gan gynnwys mudiadau cymunedol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, cyllidwyr, awdurdodau lleol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, adrannau Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd yr ymchwil yn helpu i lunio cefnogaeth fwy cydlynol ac effeithiol ar gyfer gweithredu dan arweiniad y gymuned, yn rhoi gwybodaeth i benderfyniadau ar ddyrannu adnoddau, cyllid a mecanweithiau ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, ac yn dylanwadu ar raglenni yn ymwneud â datblygu a lles sy’n seiliedig ar le.

5) Cyfraniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol diffoddwyr tân ar alwad yng nghefn gwlad Cymru

Amcan yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth o gyfraniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Diffoddwyr Tân Ar Alwad (rhan-amser) (DTAA) i gymunedau gwledig yng Nghymru, gan roi tystiolaeth i alluogi cydnabod gwerth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol DTAA i’w hymgorffori wrth wneud penderfyniadau ac i lywio polisïau cenedlaethol a lleol i gefnogi cynaliadwyedd y gwasanaeth DTAA i ymateb i argyfyngau.

Yng Nghymru, mae 54% o ddiffoddwyr tân yn rhai sydd ar alw, gyda llawer o gefn gwlad Cymru rhwng Blaenau’r Cymoedd ac arfordir y gogledd bron yn gwbl ddibynnol ar ddiffoddwyr tân ar alwad ar gyfer gwasanaethau tân ac achub. Er gwaethaf eu rôl hanfodol, mae DTAA a’r System Dyletswydd Wrth Gefn (RDS) y maent yn gweithio ynddi, yn wynebu heriau systemig, gan gynnwys diffyg cydnabyddiaeth, anawsterau recriwtio, a chyfyngiadau adnoddau. Nid yn unig y mae DTAA yn cyflawni rôl hanfodol wrth ymateb i argyfyngau ond maent hefyd yn ymgorffori’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn cymunedau lleol, gan yn aml wneud cyfraniadau ffurfiol neu anffurfiol at fywyd cymunedol ehangach.

Fodd bynnag, nid yw gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd DTAA wedi’i ddiffinio’n dda, nac wedi’i ddeall yn dda. Gall hyn arwain at gynigion gwerth sydd wedi’u mynegi’n wael, ac felly wedi’u tanddatgan, pan fydd arweinwyr strategol, gwleidyddion, a llunwyr polisi yn gwneud yr achos dros ehangu’r cyfleoedd i gynyddu rôl DTAA mewn cymunedau lleol, buddsoddi mewn atebion cynaliadwy cadarn, a chynyddu cydnerthedd cymunedau lleol.

Dylai’r ymchwil ddatblygu dealltwriaeth o’r materion hyn drwy’r canlynol:

  • Mesur cyfraniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol diffoddwyr tân ar alwad (DTAA)
  • Datblygu fframwaith Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ac o bosibl ddatblygu offer/dull, wedi’i deilwra i DTAA.
  • Nodi effeithiau cymdeithasol mesuradwy, gan gynnwys cydnerthedd ymateb meddygol cymunedol, arbedion cost, a gweithgarwch ymgysylltu diwylliannol ar gyfer y gymuned, cyfraddau cadw gwirfoddolwyr, hunaniaeth gymunedol, a chydnabyddiaeth gyhoeddus o gyfraniadau diffoddwyr tân, canlyniadau diogelwch gwell, ymddiriedaeth gyhoeddus well, ac ymgysylltu cymunedol.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) set o ddata meincnod sy’n cynnwys y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru; (b) fframwaith SROI arfaethedig ar gyfer asesu gwerth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol DTAA y gellir eu defnyddio gan Wasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru ac o bosibl mewn mannau eraill; (c) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd, gan gynnwys argymhellion i’r Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cymru a’i Phartneriaethau Cymdeithasol i wella recriwtio, cadw a dyrannu adnoddau ar gyfer diffoddwyr tân ar alwad.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Nodwyd yr angen hwn am ymchwil gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n barod i gynnig arweiniad a chymorth pellach yn ystod yr ymchwil.

6) Modelau Busnes ar gyfer Mentrau Cymunedol

Amcan yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth o ‘beth sy’n gweithio’ fel modelau busnes ar gyfer mentrau cymunedol yng nghyd-destun Cymru wledig, gan gynnwys ffurf gyfansoddiadol a strwythur llywodraethu mentrau a modelau ar gyfer cynhyrchu refeniw a chynaliadwyedd ariannol.

Mae mentrau cymunedol yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn economi a chymdeithas Cymru wledig, gan lenwi bylchau yn aml wrth ddarparu gwasanaethau a seilwaith a grëwyd yn sgil ymadawiad darparwyr cyhoeddus neu breifat, neu fod yn gyfrwng ar gyfer gweithredu dan arweiniad y gymuned mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol a’r trawsnewid i Sero Net, adfywio economaidd, cydnerthedd diwylliannol, neu fynd i’r afael ag anghydraddoldebau lleol. Nod mentrau cymunedol yw gwella rheolaeth leol trwy berchnogaeth a rheoli cymunedol, a chyfrannu at adeiladu cyfoeth cymunedol trwy gadw elw yn lleol, ond nid oes un ffurf sefydliadol iddynt. Mae modelau cyffredin yn cynnwys Cwmnïau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol, a chwmnïau cydweithredol, ond nid yw manteision ac anfanteision y strwythurau gwahanol hyn yn cael eu deall yn eang gan weithredwyr cymunedol. Gall cynaliadwyedd ariannol fod yn her i fentrau cymunedol o bob ffurf, gyda llawer yn dibynnu ar gyllid grant am gyfnod. Fodd bynnag, mae rhai mentrau wedi datblygu ffrydiau refeniw annibynnol, gan gynnwys dulliau arloesi fel darparu’r swyddogaeth Clerc ar gyfer Cynghorau Cymuned, ond unwaith eto ychydig o ddealltwriaeth sydd o natur drosglwyddadwy’r modelau hyn neu’r modd o’u cael ar raddfa fwy o faint.

Dylai’r ymchwil gyfrannu at werthuso gwahanol fodelau busnes a nodi ‘beth sy’n gweithio’ drwy’r canlynol:

  • Cynnal arolwg ar yr ystod o fodelau busnes a fabwysiadwyd gan fentrau cymunedol yng nghefn gwlad Cymru.
  • Llunio astudiaethau achos i archwilio strwythurau busnes a modelau ariannol yn fanwl, gan gynnwys cymhellion dros fabwysiadu dulliau penodol, y buddion a gafwyd a’r heriau a wynebwyd.
  • Asesu ffactorau sy’n effeithio ar y gallu i drosglwyddo neu gynyddu maint y modelau a nodwyd.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarperir; (b) enghreifftiau, templedi neu ffeithluniau ymarferol sy’n darlunio gwahanol fodelau y gellir eu rhannu â mentrau cymunedol; (c) argymhellion ar gyfer gwella canllawiau a chefnogaeth i fentrau cymunedol ar gyfer defnyddwyr posibl gan gynnwys y Llywodraeth, cymorth busnes, a sefydliadau’r trydydd sector.

7) Beth allwn ni ei ddysgu o sut mae mudiadau cymunedol a diwylliannol yn ymgysylltu ac yn gweithredu polisïau sero net?

Amcan yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae sefydliadau a mudiadau cymunedol a diwylliannol yng nghefn gwlad Cymru yn ymgysylltu â’r argyfwng hinsawdd ac yn cymryd camau gweithredu yn ei gylch; ac i nodi gwersi o’r profiadau hyn a all lywio llunio polisïau mwy effeithiol a chefnogi cymhwyso polisïau yn y maes hwn yn ehangach.

Mae mudiadau cymunedol a diwylliannol yn bwysig i weithredu polisïau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi’r newid i Sero Net yng Nghymru wledig. Maent yn weithredwyr pwysig mewn ymgysylltu cyhoeddus ar argyfyngau’r hinsawdd a byd natur, gan sbarduno newid ymddygiad ac arloesedd lleol. Mae normau diwylliannol ac adrodd straeon yn ddylanwadau hollbwysig ar sut rydym yn gweithredu, a dangoswyd bod integreiddio hunaniaeth ddiwylliannol ac iaith mewn strategaethau hinsawdd yn cynnal cyfreithlondeb cymdeithasol. Yn yr un modd, gall dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n seiliedig ar le helpu i gyflawni newid cyfiawn er mwyn osgoi anfantais i gymunedau gwledig (e.e., trwy wrthdaro mewn defnydd tir, neu fforddiadwyedd).

Mae nifer cynyddol o sefydliadau a phartneriaethau pwrpasol yn y trydydd sector i gefnogi addysg sero net ac ymgysylltu cymunedol (e.e. GwyrddNi) y gallwn ddysgu mwy oddi wrthynt. Mae cyfle hefyd i ddeall yn well sut mae mudiadau cymunedol a diwylliannol hirsefydlog (e.e. Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc, yr Eisteddfod) yn rhagweld ac yn ymgysylltu â sero net ac yn cyfathrebu â’u haelodau ynglŷn â hyn.

Gwyddom mai anghyson yw’r nifer sydd wedi mabwysiadu a gweithredu polisïau a mentrau Sero Net ar draws y sector hwn. Er enghraifft, canfu arolwg Cymru Wledig LPIP Rural Wales o Gynghorau Cymuned mai dim ond 22% o’r cynghorau a ymatebodd oedd wedi gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni, 16% wedi newid i gyflenwr ynni gwyrdd a 6% wedi gosod targedau allyriadau carbon. Mae deall y ffactorau sy’n llywio’r defnydd o bolisïau a mentrau o’r fath gan grwpiau cymunedol yn hanfodol ar gyfer ehangu a chyflymu’r cyfnod pontio i Sero Net, ond prin yw’r wybodaeth gyfredol ynghylch sut mae grwpiau cymunedol yn mynd ati i wneud penderfyniadau ynghylch y cynigion hyn. Ymhlith y rhwystrau a nodwyd yn flaenorol yn y sector diwylliannol mae adnoddau cyfyngedig, cyllid tameidiog, a diffyg llythrennedd carbon, sy’n awgrymu mwy o gyfleoedd i ymgorffori cynaliadwyedd mewn llywodraethu, alinio cyllid â nodau hinsawdd, a defnyddio mannau diwylliannol ar gyfer addysg hinsawdd.

Wrth fwrw ymlaen â’r dealltwriaethau hyn, dylai’r ymchwil gyfrannu at y dysgu sydd ar gael am ymgysylltiad mudiadau cymunedol a diwylliannol â’r argyfwng hinsawdd er mwyn archwilio:

  • Ffactorau gwneud penderfyniadau sy’n llywio mabwysiadu neu weithredu polisïau lliniaru / addasu i newid yn yr hinsawdd.
  • Defnyddio strategaethau cyfathrebu a mynegi i ymgysylltu’n effeithiol â chymunedau.
  • Integreiddio diwylliant, iaith, a hunaniaeth mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r hinsawdd.
  • Sut mae gweithredu ar yr hinsawdd wedi’u gwreiddio yng nghenhadaeth a gweithgareddau ehangach sefydliadau a mudiadau.
  • Heriau a galluogwyr wrth weithredu mentrau hinsawdd.
  • Manteision a chyd-fuddiannau yn deillio o’r gweithredoedd hyn (e.e., cymdeithasol, diwylliannol, economaidd).

Dylai’r ymchwil ddadansoddi’r dystiolaeth a gasglwyd i nodi gwersi y gellir eu dysgu i gefnogi ac arwain mabwysiadu polisïau a mentrau tebyg gan grwpiau eraill, neu i lywio llunio polisïau ehangach.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarperir; (b) canllawiau i sefydliadau cymunedol a diwylliannol sy’n ystyried ac yn gweithredu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd; (c) argymhellion i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff eraill ar gamau gweithredu mewn polisi a fyddai’n cefnogi cymunedau i ymgysylltu â’r argyfwng hinsawdd a’r newid i Sero Net.

8) Deall gweithwyr llawrydd creadigol yng nghefn gwlad Cymru

Nod yr ymchwil hwn yw datblygu gwybodaeth am weithwyr llawrydd yn y sector creadigol a’u profiadau o weithio yng Nghymru wledig. Bydd yn archwilio proffil gweithwyr llawrydd creadigol, eu hanghenion a sut mae’r rhain yn cael eu diwallu, neu beidio, ar hyn o bryd. Y nod yw gwella’r seilwaith sy’n cefnogi gweithwyr llawrydd creadigol er mwyn gwella ymhellach eu cyfraniad i fywyd economaidd a diwylliannol Cymru wledig.

Mae gweithwyr llawrydd a gweithwyr portffolio yn rhan bwysig o weithlu’r sector diwylliannol a chreadigol, fel y cydnabuwyd yn nogfen bolisi ddiweddar Llywodraeth Cymru ar Flaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. Fodd bynnag, er mwyn gwireddu uchelgeisiau’r strategaeth yn llawn, mae angen mwy o dystiolaeth ar brofiadau gweithwyr llawrydd creadigol, yr heriau y maent yn eu hwynebu, a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i fywyd economaidd a diwylliannol. Mae gweithwyr llawrydd yn bwysig iawn yng ngweithlu Cymru wledig, a’r rhai creadigol yn eu plith hefyd yn hanfodol i weithgareddau diwylliannol yn y rhanbarth. Caiff datblygiad ac allgymorth y celfyddydau eu hariannu’n bennaf trwy brosiectau penodol a gynhelir gan ymarferwyr llawrydd. Fodd bynnag, yn aml nid yw cyllid prosiect yn cwmpasu’r gwaith cydgysylltu cefndirol sy’n gysylltiedig â threfnu’r sector a meithrin talent newydd.

Yn y Gymru wledig, yn arbennig, mae dwysedd poblogaeth teneuach a maint llai mudiadau a sefydliadau diwylliannol yn cyfyngu ar eu gallu gweinyddol, gan arwain at fwy o faich ar ymarferwyr llawrydd. Yn ogystal, er bod llawer o weithwyr llawrydd creadigol yn dewis byw a gweithio mewn cymunedau gwledig, yn aml nid oes gan ardaloedd fel y rhain y dwysedd rhwydweithiau diwylliannol a chreadigol a geir mewn dinasoedd nac ychwaith fynediad hawdd i leoliadau a seilwaith cymorth. O’r herwydd, mae’n rhwydd i weithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru wledig gael eu hynysu a bod llai o gyfleoedd iddynt.

Dylai’r ymchwil hwn gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynnil o brofiadau ac anghenion ymarferwyr llawrydd creadigol a gweithwyr portffolio yng Nghymru wledig, a dylai gynnwys yr elfennau canlynol: 

  • Nifer, proffil a dosbarthiad daearyddol yr ymarferwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru wledig, gan gynnwys eu meysydd ymarfer.
  • Strwythur a deinameg rhwydweithiau o weithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru wledig, gan gynnwys sut mae’r rhain yn cael eu cydlynu, y gweithgareddau y maent yn eu cefnogi, a sut maent yn ymgysylltu â mudiadau a sefydliadau diwylliannol yng nghefn gwlad a thu hwnt.
  • Yr amgylchedd gwaith a’r ecosystem fusnes ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru wledig, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith, hyfforddiant a datblygu sgiliau, sefydlogrwydd ariannol, a mynediad at gymorth busnes.
  • Seilwaith diwylliannol/creadigol Cymru wledig a sut mae’r rhain yn rhyngweithio â gweithwyr llawrydd creadigol, gan gynnwys cyllid, cyfleoedd cyflogaeth, a mynediad i seilwaith ffisegol fel stiwdio neu weithdai, lleoliadau, a mannau cyfarfod.

Dylai’r prosiect archwilio profiadau gweithwyr llawrydd creadigol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r uchod, gan gynnwys dyfeisio atebion a gweithio o gwmpas problemau i addasu i heriau cyd-destun gwledig, a nodi eu hanghenion ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Dylai ystyried sut y gellid diwallu anghenion a nodwyd drwy ymyriadau polisi a mentrau, gan gynnwys cyd-fynd â Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru a Chynlluniau Llesiant awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod. Mae’r angen hwn am ymchwil wedi’i nodi gan Celfyddydau Pontio a grŵp thematig Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, a hwythau’n fodlon rhoi arweiniad a chymorth pellach yn ystod yr ymchwil.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) enghreifftiau astudiaethau achos o arfer da mewn fformat priodol i’w rannu â’r sector; (c) argymhellion i Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill perthnasol yn y sector.d practice in an appropriate format for sharing with the sector; (c) recommendations to Welsh Government, Arts Council Wales, local authorities and other relevant public bodies and sector organisations.

9) Y Gymraeg yn galluogi neu’n rhwystr mewn prosiectau cydweithredol

Mae polisïau iaith Gymraeg yn cefnogi ac yn gofyn am gynnwys y Gymraeg mewn mentrau sefydliadol yng Nghymru, megis cyfathrebu cymunedol gan y Cyngor, ymdrechion allgymorth academaidd, neu ymgynghoriadau gan ddarparwyr iechyd. Y nod yw sicrhau hygyrchedd teg i’r rhai sydd fwyaf cyfforddus yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ar yr un pryd â gweithio tuag at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae egwyddorion ac arfer da yn llai clir ar gyfer prosiectau trawsddisgyblaethol sy’n dod â chynrychiolwyr o gefndiroedd gwahanol iawn at ei gilydd er mwyn cyfnewid safbwyntiau’n deg a chyd-greu atebion. Mae profiadau anffurfiol a thystiolaeth anecdotaidd o gydweithio traws-sector yn awgrymu efallai na fydd polisïau dwyieithog syml yn ddigon ar gyfer cyfathrebu gwirioneddol deg mewn achosion o’r fath. Mae’r sefyllfa mewn prosiectau o’r fath yn amlwg yn fwy cymhleth a heriol o’i gymharu â chyfathrebu unffordd y gellir ei gynnig yn ddwyieithog, neu sgyrsiau mewn grwpiau bychain lle gall y siaradwyr gytuno ar eu dewis iaith. Nodweddir cydweithio trawsddisgyblaethol yn aml gan weithdai mwy estynedig a thrafodaethau grŵp, lle mae niferoedd uwch o gyfranogwyr yn cynyddu’r tebygolrwydd o gynnwys pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Heb gyfieithydd yn bresennol, mae bron yn anochel y cynhelir sgyrsiau grŵp yn Saesneg, oni bai bod siaradwyr Cymraeg yn penderfynu crynhoi eu cyfraniadau cyfrwng Cymraeg mwy estynedig yn Saesneg. Mae dulliau o’r fath fel arfer yn rhoi’r baich ar siaradwyr Cymraeg, gan fod ag effeithiau andwyol ar y defnydd o’r Gymraeg. Mae cyfieithu ar y pryd yn gwella’r sefyllfa hon ond mae’n gostus, nid yw bob amser yn ymarferol, a gwelir yn aml ei fod yn rhwystro cyfathrebu sy’n llifo’n rhwydd.

Nid oes llawer o ddealltwriaeth hyd yma am effeithiau’r egwyddorion a’r mecanweithiau hyn ar brosiectau cydweithredol traws-sector yng Nghymru, gan gynnwys eu potensial ar gyfer datblygiad cadarnhaol. Bydd nodi a disgrifio heriau cyfathrebu dwyieithog pan fydd nifer o gyfranogwyr ac archwilio datrysiadau yn rhan werthfawr o ddeall sut i greu amgylchedd gwirioneddol deg. Mae profiad yn dangos bod cyfranogwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu’n ystyrlon pan gefnogir eu dewis iaith.
Mae tystiolaeth helaeth bod rôl allweddol i’r Gymraeg yn ymdeimlad pobl o hunaniaeth a pherthyn mewn sawl rhan o Gymru, teimladau a fydd yn effeithio ar barodrwydd i ymrwymo mewn prosiectau cydweithredol sy’n ceisio integreiddio profiad byw â mewnwelediadau academaidd. Yn hytrach na bod yn rhwystr ac yn faich sy’n gysylltiedig â’r angen am gyfieithu, gall y Gymraeg felly wasanaethu fel hwylusydd nad yw’n cael ei werthfawrogi’n ddigonol i gyrraedd pobl mewn ffordd sy’n bwysig iddynt hwy, ymhell y tu hwnt i fecanweithiau ac amcanion cyfathrebu hygyrch.

Er mwyn mynd i’r afael â’r angen dybryd i wella dealltwriaeth o rôl y Gymraeg fel galluogwr neu rwystr ar gyfer cydweithio, bydd y prosiect hwn yn archwilio croestoriad polisïau iaith Gymraeg a realiti prosiectau ymchwil trawsddisgyblaethol yng Nghymru. Y nod fydd disgrifio arfer gorau sy’n galluogi amgylchedd prosiect gwirioneddol ddwyieithog a theg ynghyd â manteision ac enillion posibl dull o’r fath. Bydd yn nodi rhwystrau a galluogwyr amgylchedd gwaith sy’n deg ac yn gynhwysol yn ieithyddol ac amgylchedd sy’n annog pobl i gymryd rhan waeth beth fo eu dewis iaith. Rhoddir pwyslais penodol ar agweddau, profiadau a barn cyfranogwyr ac arweinwyr prosiectau, gan fod atebion yn aml i’w gweld ym mhrofiadau byw y rheiny sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phrosiectau.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) argymhellion a chanllawiau ymarferol yn dangos sut y gellir rhoi dulliau dwyieithog ar waith ar gyfer mudiadau a sefydliadau cymunedol, arweinwyr academaidd, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, cyllidwyr, awdurdodau lleol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, adrannau Llywodraeth Cymru a mentrau sy’n rhoi cymorth â’r iaith. Rhagwelir y bydd yr ymchwil yn helpu i lunio cymorth â’r Gymraeg sy’n fwy cydgysylltiedig ac effeithiol ar gyfer prosiectau trawsddisgyblaethol, yn ogystal â llywio’r gwaith o ddatblygu mecanweithiau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, a dylanwadu ar raglenni sy’n ymwneud â chymorth dwyieithog yn seiliedig ar le.

10) Modelu’r galw am lafur a sgiliau ar gyfer cyflawni Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru wledig

Mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP). Mae’r Cynlluniau hyn yn defnyddio tystiolaeth dechnegol ar y system ynni gyfan, ffactorau annhechnegol ehangach, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i amlinellu cynllun gweithredu ar gyfer trosglwyddo i systemau ynni sero net erbyn 2050. Wrth gynllunio’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy ynni drwy fabwysiadu dull mwy rhagweithiol sy’n ystyried systemau cyfan ac sy’n seiliedig ar ddata, nod Cynlluniau Ynni Ardal Leol yw sicrhau arbedion cost a rheoli mwy ar y trawsnewid.

Bydd gweithredu’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru wledig yn golygu cryn waith o osod seilwaith ac ôl-osod adeiladau, gan greu galw sylweddol am lafur medrus. Ymhlith y ffactorau sy’n dwysáu’r her mewn ardaloedd gwledig mae’r canlynol: oedran tai gwledig, nifer uchel o aelwydydd gwledig sy’n dibynnu ar systemau gwresogi sy’n seiliedig ar olew, a seilwaith brin ar gyfer gwefru trydan mewn pentrefi gwledig. Er enghraifft, yng Ngheredigion a Phowys yn unig, amcangyfrifir y bydd angen buddsoddiad ychwanegol o £1.95 biliwn i gyflawni amcanion y Cynlluniau Ynni, gan gynnwys gosod pympiau gwres a phaneli solar ffotofoltaidd, uwchraddio adeiladwaith effeithlon mewn cartrefi domestig, sefydlu seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan, cael rhwydweithiau gwres i ardal, a chynnal prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Rhagwelir y bydd y buddsoddiad yn creu hyd at 995 o swyddi, gan gynnwys gosodwyr pympiau gwres, arbenigwyr inswleiddio ac ôl-osod, technegwyr paneli solar ffotofoltaidd, peirianwyr seilwaith gwefru cerbydau trydan, peirianwyr uwchraddio grid, technegwyr systemau ynni clyfar, rheolwyr prosiect, arbenigwyr rheoli carbon, cynghorwyr polisi ynni, cynghorwyr ynni cartref, swyddogion ymgysylltu cymunedol a hyfforddwyr sgiliau.

Ar yr un pryd, cydnabyddir bod problemau capasiti yn y sector adeiladu a sectorau cysylltiedig yng nghefn gwlad Cymru. Yn sail i’r pryder hwn mae prinder llafur sydd â’r sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Mae’n bosibl y bydd contractwyr unigol wedi’u hyfforddi i osod modelau penodol, er enghraifft pympiau gwres, ond nid oes ganddynt y gallu ehangach i weithio gydag amrywiaeth o systemau a modelau sy’n ofynnol i fod yn addasadwy mewn marchnad wledig amrywiol nad oes ganddi’r nifer ddigonol i arbenigedd fod yn ymarferol. Ymhellach, mae ymchwil diweddar gan y Countryside and Community Research Institute wedi dangos bod angen nid yn unig adeiladwyr, trydanwyr a phlymwyr, ond hefyd penseiri, syrfewyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ag arbenigedd priodol i roi cyngor ar addasu adeiladau gwledig, er mwyn gallu rhoi camau gweithredu’r Cynlluniau Ynni ar waith yn effeithiol ac yn briodol.

Mae labordy arloesi Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar yr Economi Adfywiol wedi nodi bod diffyg gwybodaeth glir am lif gwaith y dyfodol yn rhwystr i adeiladu yng nghefn gwlad ac yn rhwystr i fusnesau perthnasol rhag buddsoddi a recriwtio llafur, yn ogystal â dealltwriaeth brin ymhlith darpar weithwyr y sector am y math a’r ystod o gyfleoedd gwaith. Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi cydnabod y bydd gweithredu Cynlluniau Ynni yn creu angen am hyfforddiant i gyflenwi gweithwyr medrus angenrheidiol ond ni allant gynllunio’n effeithiol ar gyfer darpariaeth heb wybodaeth fwy cywir am natur a graddfa’r galw.

Pwrpas y prosiect hwn yw darparu rhagamcanion cadarn o’r gwaith sydd i’w wneud er mwyn cyflawni Cynlluniau Ynni Ardal Leol a’r gofynion llafur a sgiliau cysylltiedig er mwyn galluogi cynllunio mwy effeithiol gan fusnesau yn y sector a chan ddarparwyr hyfforddiant. Bydd yn cynnwys:

  • Adolygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol y 10 awdurdod lleol sydd yng Nghymru wledig.
  • Modelu maint y gweithgareddau sydd eu hangen i roi camau gweithredu’r Cynlluniau ar waith a llif y gwaith a ragwelir ar gyfer busnesau yn y byd adeiladu a sectorau cysylltiedig.
  • Mapio capasiti presennol y gweithlu yn y sectorau adeiladu ac ynni yn y rhanbarth.
  • Cymharu a modelu’r galw am lafur medrus ychwanegol er mwyn cyflawni’r Cynlluniau Ynni.
  • Nodi gofynion recriwtio, uwchsgilio a hyfforddi.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) llif rhagamcanol o waith sydd ei angen i weithredu’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol a chyfrif cysylltiedig o anghenion llafur a sgiliau, mewn fformat hygyrch y gellir ei rannu â busnesau a rhanddeiliaid y sector; (b) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd, gan gynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant a busnesau sector.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Mae’r angen hwn am ymchwil wedi’i nodi gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru sy’n barod i roi arweiniad a chymorth pellach yn ystod yr ymchwil.

11) Manteisio ar Fuddion Cymdeithasol Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy sy’n Berchen i’r Gymuned

Renewables are a critical part of the net zero transition but have long been contentious. There is an extensive literature considering the disbenefits to rural communities Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn rhan hanfodol o’r pontio i sero net ond yn ddadleuol ers amser maith. Mae llawer iawn o lenyddiaeth sy’n ystyried yr anfanteision i gymunedau gwledig sy’n cynnal datblygiadau dan arweiniad corfforaethol, a myfyrdodau mwy diweddar ar sut y gellid mynd i’r afael â phryderon o’r fath sy’n gysylltiedig â chyfiawnder. Un dull allweddol o sicrhau pontio cyfiawn yw ehangu’r cyfleoedd ar gyfer datblygiadau sy’n eiddo i’r gymuned, ond mae bylchau yn ein dealltwriaeth wedi cyfyngu ar y gefnogaeth sydd ar gael i fentrau o’r fath.

Caiff effaith datblygiadau ynni adnewyddadwy ei harchwilio fel arfer yn nhermau’r buddion economaidd cul (nifer y swyddi, cwantwm y gwariant buddsoddi, MWh a gynhyrchir, C02 a arbedir). Ac eto mae mesuryddion ehangach o’r effaith gymdeithasol yn berthnasol iawn i brosiectau cymunedol. Gall rhain gynnwys yr effaith ar dlodi ynni, cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol – megis sgiliau, hyder a chysylltioldeb cymdeithasol – yn ogystal â mwy o ymdeimlad o reolaeth ac ymreolaeth, ynghyd ag effeithiau ‘gorlifiad‘ posib yr ymgysylltiad â phrosiectau ynni i feysydd arferion cynaliadwy eraill. Er bod y buddion hyn wedi’u dogfennu mewn astudiaethau achos yng Nghymru ac yn ehangach, prin yw’r ddirnadaeth o sut i ddefnyddio ac ailadrodd mesurau o’r fath mewn ymyriadau a datblygiadau newydd arfaethedig.

Mae llawer o’r gwaith ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio ar gynhyrchu ynni gwynt o’r newydd, ac mae angen ehangu ein dealltwriaeth o’r effeithiau cymdeithasol er mwyn croesawu ystod ehangach o isadeileddau ynni cynaliadwy, mewn datblygiadau newydd cysylltiedig â thrafnidiaeth, gwres, storio/hydrogen a systemau ynni sy’n cysylltu’r rhain gyda’i gilydd (ee systemau ynni lleol clyfar). Canfu ymchwil arolwg gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn gynharach eleni fod gan tua un o bob deg o’r cymunedau a ymatebodd gynlluniau gwynt neu solar cymunedol, gyda niferoedd llai yn buddsoddi mewn prosiectau biomas, hydrogen neu ynni dŵr. 

Bydd y prosiect hwn yn ystyried sut y gallwn fesur effeithiau cymdeithasol prosiectau ynni adnewyddadwy yn fwy effeithiol fel bod modd ymgorffori’r buddion hyn i gynigion cynllunio a’u cyflwyno mewn adroddiadau i gyllidwyr a’r llywodraeth. Yn benodol, ein nod yw datblygu tystiolaeth sy’n cefnogi mentrau polisi sy’n annog perchnogaeth y gymunedol leol, sy’n tynnu sylw at y gwerth ychwanegol a ddarperir o’i gymharu â datblygiadau sy’n eiddo i gorfforaeth.  Rydym yn rhagweld y bydd yr ymchwil yn cynnwys:

  • Adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth ymchwil bresennol ar fanteision cymdeithasol datblygiadau ynni adnewyddadwy: mathau o fudd; tystiolaeth o’u cyflawniad ymarferol; o’r defnydd o dystiolaeth o’r fath.
  • Adnabod astudiaethau achos enghreifftiol (o fewn a thu hwnt i Gymru), o brosiectau neu gwmnïau sydd wedi rhoi sylw gofalus i fuddion cymdeithasol, a’u monitro a chynhyrchu adroddiadau arnynt.
  • Dadansoddiad o lif posib buddion cymdeithasol i gymunedau yng nghefn gwlad Cymru a ffurf bosib y buddion hyn, gan gynnwys unrhyw amrywiadau cymdeithasol a daearyddol posib a’r raddfa y gellir gwireddu’r buddion yn ymarferol (e.e. cymunedau unigol, ardaloedd ehangach, ac ati).
  • Dadansoddiad o effaith gwahanol fathau o brosiectau, technolegau a modelau perchnogaeth ar y posibilrwydd o greu manteision cymdeithasol ac ar y ffordd y cânt eu dosbarthu i fuddiolwyr.

Dylai’r ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) pecyn cymorth/templed y gallai sefydliadau cymunedol a pherchnogion asedau ei ddefnyddio i ddangos gwerth eu prosiect a bwydo i dystiolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer polisïau.

12) Sut y gallai gwarant Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol weithio i Gymru Wledig?

Datblygwyd y syniad o Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol gan yr economegydd Diane Coyle a’i chydweithwyr yn Sefydliad Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt fel techneg i fynd i’r afael â dosbarthiad daearyddol anghyfartal seilwaith cymdeithasol a mynediad at wasanaethau. Mae’n cynnwys gwasanaethau cyhoeddus, fel gofal iechyd, addysg a phlismona, yn ogystal â gwasanaethau allweddol y sector preifat fel bancio, a seilwaith sy’n cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau band eang. Mae’r adroddiad gan Coyle a’i chydweithwyr hefyd yn cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol sy’n rhan o seilwaith cymdeithasol lle, ac sy’n cyfrannu at les lleol yn ogystal ag ymdeimlad pobl o hunaniaeth a balchder yn eu hardal.

Byddai cynnig Coyle ar gyfer gwarant Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol yn gosod trothwy ar wasanaethau cyhoeddus gan ddefnyddio fformiwla fesul pen: ni fyddai modd cau na gostwng gwasanaethau a chyfleusterau lleol craidd yn is na’r safonau gofynnol. Yn yr un modd, byddai rheolyddion yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau preifat sy’n darparu gwasanaethau cyfleustodau fel trafnidiaeth neu fand eang fodloni safonau cyffredinol gofynnol fel rhan o’u trwydded weithredu gymdeithasol.

Mae apêl amlwg i’r syniad o Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol mewn ardal fel Cymru wledig, lle mae mynediad at wasanaethau a seilwaith yn fwy anghyson nag mewn ardaloedd trefol, a lle mae gwasanaethau cyhoeddus a phreifat wedi eu gostwng a’u cyfuno dros y pymtheng mlynedd diwethaf, gan gynnwys, ymysg eraill, ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau gofal dydd, canghennau banc, swyddfeydd post a meddygfeydd.

Fodd bynnag, nid yw adroddiad Sefydliad Bennett yn mynd cyn belled â darparu cynllun manwl ar gyfer gweithredu Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol na gosod trothwyon. Pwrpas y prosiect hwn felly yw sefydlu ymarferoldeb Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol yng nghefn gwlad Cymru ac asesu sut y gallai weithio. Dylai:

  • Ganfasio barn rhanddeiliaid perthnasol ar fanteision ac anfanteision Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol, gwasanaethau a seilwaith y gellid eu cynnwys, a’r broses o sefydlu trothwyon priodol.
  • Adolygu pa ddata  priodol sydd ar gael i fonitro a mapio mynediad at Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol yng nghefn gwlad Cymru.
  • Gosod egwyddorion ar gyfer datblygu Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol i Gymru wledig.

Dylai’r ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) dogfen friffio gydag argymhellion sy’n addas i’w rhannu’n gyhoeddus.e: (a) a short report following the provided template; (b) a briefing document with recommendations suitable for public dissemination.

13) Modelau ar gyfer Cryfhau Prawfesur Gwledig yng Nghymru

Mae prawfesur gwledig yn cynnwys sgrinio deddfwriaeth a rhaglenni llywodraeth arfaethedig i asesu eu heffaith ar gymunedau gwledig. Mae prawfesur gwledig yn rhan sefydledig o arfer Llywodraeth Cymru, ond nid yw’n ofyniad statudol. Mae hyn wedi arwain at bryderon nad yw prawfesur gwledig yn cael ei weithredu’n gyson neu’n gadarn ar draws pob maes polisi. Yn ei ‘Faniffesto Gwledig’ ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, mae Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n cynrychioli awdurdodau lleol sydd ag ardaloedd gwledig, yn galw am ddatblygu “offeryn prawfesur gwledig mwy cadarn a mesurydd asesu effaith gwledig i’r porth polisi ar gyfer asesu’r holl gynigion polisi, deddfwriaeth a chyllid cenedlaethol newydd, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael effaith negyddol ar ardaloedd gwledig”.

Mae prawfesur gwledig yn cael ei weithredu ym mhob un o genhedloedd y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag yn llawer o wledydd Ewrop, ond mae’r drefn a’r sail statudol yn amrywio. Yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, cyflwynodd Deddf Anghenion Gwledig (2016) broses statudol ar gyfer asesu anghenion cymunedau gwledig ac effaith deddfwriaeth. Yn yr Alban, rhoddodd Deddf Ynysoedd (Yr Alban) 2018 statws statudol i broses o ‘brawfesur Ynysoedd’ oedd yn fwy cyfyngedig yn ddaearyddol trwy Asesiadau o’r Effaith ar Gymunedau Ynys.

Pwrpas y prosiect hwn yw adolygu’r defnydd o brawfesur gwledig yng Nghymru, deall y beirniadaethau, a nodi a ellid trosi modelau o wledydd eraill y Deyrnas Unedig ac Ewrop i Gymru, gan gynnwys gwneud prawfesur gwledig yn ofyniad statudol. Dylai:

  • Sefydlu sut mae prawfesur gwledig yn cael ei weithredu ar hyn o bryd ar bolisïau yng Nghymru.
  • Archwilio beirniadaethau o’r trefniadau prawfesur gwledig presennol a’r cynigion ar gyfer newid a hyrwyddir gan randdeiliaid gwledig.
  • Archwilio a dadansoddi dulliau o fynd i’r afael â phrawfesur gwledig ac asesu anghenion gwledig yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewrop, gan nodi cryfderau a gwendidau, a gwerthuso’r potensial o fabwysiadu gwersi neu fodelau yng Nghymru.

Dylai’r ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) dogfen friffio gydag argymhellion sy’n addas i’w rhannu’n gyhoeddus.uld include: (a) a short report following the provided template; (b) a briefing document with recommendations suitable for public dissemination.

14) Cynrychiolaeth o Fuddiannau Cymunedol Gwledig yng Nghymru

Nid oes gan Gymru fforwm na chymdeithas genedlaethol sy’n cynrychioli cymunedau gwledig na sefydliadau cymunedol gwledig. Caiff buddiannau gwledig eu cynrychioli’n rhannol gan Fforwm Gwledig CLlLC o awdurdodau lleol sy’n cynnwys ardaloedd gwledig a chan sefydliadau fel yr undebau ffermio. Fodd bynnag, nid yw’r sefydliadau hyn yn cynrychioli cymunedau gwledig yn uniongyrchol ac efallai fod ganddynt bryderon craidd gwahanol, mwy penodol. Mae beirniaid wedi dadlau bod absenoldeb fforwm cenedlaethol i gymunedau gwledig yn golygu na chaiff buddiannau cymunedau gwledig eu clywed mor glir mewn dadleuon polisi ac nad oes lobïo gweithredol yn digwydd o’u plaid.

Mae amrywiaeth o fodelau yn bodoli i gynrychioli buddiannau cymunedol yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewropeaidd. Yn Lloegr, mae ACRE wedi gweithio fel corff ymbarél ar gyfer sefydliadau cymunedol gwledig, wedi’i strwythuro drwy Gynghorau Cymuned ar draws siroedd, ers degawdau lawer. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Rural Community Network yn gorff seiliedig ar aelodaeth sy’n cysylltu grwpiau cymunedol, sefydliadau’r sector gwirfoddol ac awdurdodau statudol. Yn fwy eang yn Ewrop, mae sawl gwlad wedi mabwysiadu model Seneddau Gwledig. Nid cyrff deddfu etholedig yw’r rhain, ond fforymau lle daw cynrychiolwyr sefydliadau cymunedol gwledig at ei gilydd i drafod materion sy’n destun pryder a chytuno ar geisiadau i’r llywodraeth. Mae fformat y Seneddau Gwledig yn amrywio. Yn yr Alban, er enghraifft, mae’r Scottish Rural and Islands Parliament wedi cyfarfod bob 2 i 3 blynedd ers 2014, gan gyhoeddi a rhannu profiadau a syniadau drwy ddigwyddiadau personol ac ar-lein wedi eu curadu gan sefydliadau cymunedol gwledig. Mae gan rai gwledydd, gan gynnwys yr Alban, Seneddau Ieuenctid Gwledig cyfochrog.

Pwrpas y prosiect hwn yw ystyried sut y gellid cryfhau cynrychiolaeth cymunedau gwledig yng Nghymru. Dylai’r prosiect:

  • Adolygu unrhyw drefnau presennol lle mae buddiannau gwledig yn cael eu cynrychioli yn y broses bolisi yng Nghymru, gan adnabod cryfderau a chyfyngiadau.
  • Adolygu nodweddion, manteision ac anfanteision modelau cynrychiolaeth sector y gymuned wledig yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewrop.
  • Adnabod barn rhanddeiliaid ar rinweddau gwahanol fodelau i’w defnyddio yng Nghymru.

Dylai’r ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai canlyniadau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a ddarparwyd; (b) dogfen friffio gydag argymhellion sy’n addas i’w rhannu’n gyhoeddus.

15) Hyrwyddo Cyfnerthedd Diwylliannol a Llesiant ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Yn debyg i bob corff cyhoeddus arall, mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddyletswydd dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) i amlinellu polisïau a mabwysiadu cynlluniau ar gyfer gweithio at gyflawni’r weledigaeth gyfunol i Gymru a ymgorfforir yn y saith Nod Llesiant cenedlaethol sef ‘Cymru lewyrchus’ ‘Cymru gydnerth, ‘Cymru iachach’, ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’, Cymru o gymunedau cydlynus’, ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’, a ‘Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’. I’r Parciau Cenedlaethol, rhaid croesgyfeirio’r nodau llesiant hyn gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Tirweddau Dynodedig.

Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Ddatganiad Llesiant yn 2021, sy’n gosod tri amcan sef ‘Amgylcheddau Cydnerth’, ‘Cymunedau Cydnerth’, a ‘Ffyrdd Cydnerth o Weithio’ a chyfres o 15 o gamau gweithredu ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn. Mae’r camau gweithredu’n cynnwys “Gwella rheolaeth a’r ddealltwriaeth o’n treftadaeth ddiwylliannol”; “Hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy i ychwanegu gwerth i gymunedau lleol”; a “Hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yn weithredol”, ond nid yw diwylliant yn flaenllaw yn y strategaeth llesiant.

Diben y prosiect hwn fydd edrych sut y gellir ymgorffori gwydnwch diwylliannol a llesiant yn gryfach yn Strategaeth Llesiant a chynlluniau gweithredol Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys diogelu a chyfoethogi treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol. Dylai gynnwys:

  • Nodi asedau diwylliannol allweddol Eryri a sut mae’r rhain yn croestorri gydag asedau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
  • Gwerthuso cyfraniad polisïau a gweithgareddau presennol y Parc Cenedlaethol i gyfnerthedd diwylliannol a llesiant, gan gynnwys buddsoddiadau iaith.
  • Ystyried camau a mentrau pellach y gallai Parc Cenedlaethol Eryri eu cymryd i gefnogi cyfnerthedd diwylliannol a llesiant a gwneud y gorau o werth economaidd cymdeithasol lleol, gan gynnwys gweithgareddau llesiant gyda chymunedau lleol.
  • Dadansoddi’r partneriaethau a’r cyfleoedd cyllido a fydd yn galluogi’r Parc Cenedlaethol i gyflwyno cynllun ar gyfer cyfnerthedd diwylliannol a llesiant.

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r dulliau ymchwil a’r ffynonellau data y maent yn bwriadu eu defnyddio i gyflawni’r fanyleb ymchwil uchod.

Dylai deilliannau’r ymchwil gynnwys: (a) adroddiad byr yn dilyn y templed a gaiff ei ddarparu; (b) cyflwyniad i Grŵp Thematig Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Mae’r flaenoriaeth ymchwil hon wedi’i chynnig gan y Grŵp Thematig Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol a’r Cyd-arweinwyr, Dr Eifiona Thomas Lane ac Osian Gwynn, sy’n barod i gynnig rhagor o arweiniad a chymorth yn ystod yr ymchwil.ence Thematic Group and the Co-Leads, Dr Eifiona Thomas Lane and Osian Gwynn, are willing to provide further guidance and assistance during the research.