Arolwg Ardaloedd Cymru Wledig
Mae Arolwg Lleoliadau Cymru Wledig yn astudiaeth annibynnol o bedair cymuned ‘wledig anghysbell‘ yng Nghymru gan gynnwys Aberdaron, Clydau, a Llanfihangel-yn-Nwynfa a Llangamarch.
Bydd yr arolwg yn ymdrin â’r themâu canlynol:
- Eich cymuned, cyfleoedd a heriau byw mewn ardal wledig
- Darpariaeth gwasanaethau a gwydnwch cymunedol
- Lles a chydlyniant cymunedol
- Cyflogaeth ac addysg
- Diwylliant, y Gymraeg a dwyieithrwydd
- Tai
- Cost a safon byw
Mae’r arolwg yn ailadrodd cwestiynau Arolwg Ardaloedd Gwledig Anghysbell 2008/9 Arsyllfa Wledig Cymru.
Bydd yn cymharu data yn erbyn yr arolwg blaenorol ac yn casglu data newydd sy’n berthnasol i faterion heddiw.
Gallwch gwblhau’r arolwg naill ai ar-lein, trwy ddefnyddio copi papur, neu wyneb yn wyneb gydag un o’n hymchwilwyr fydd yn dosbarthu’r arolwg ac yn casglu ymatebion o ddrws i ddrws yn eich cymuned.
Efallai y bydd ymchwilwyr o’ch cymuned yn rhan o’r gwaith o gynnal yr arolwg o ddrws i ddrws.
Os byddwch yn ateb yr arolwg wrth y drws, gallwch ofyn i’r ymchwilwyr hepgor cwestiwn neu ofyn am gopi o’r arolwg i’w gwblhau yn eich amser personol eich hun. Gallwch ofyn am barhau heb i’r ymchwilydd cymunedol fod yn bresennol os bydd adnabod y person yn eich atal rhag ateb rhai cwestiynau’n llawn.
Pan fydd yr ymchwilwyr yn galw i’ch drws, os ydych chi eisoes wedi llenwi’r arolwg ar-lein, mae croeso i chi roi gwybod i’r tîm. Ni fydd disgwyl i chi gwblhau’r arolwg fwy nag unwaith.
Byddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb i’r arolwg yn fawr; fodd bynnag, nid oes rhaid i chi ei gwblhau. Bydd eich ymateb yn wirfoddol.
Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a dylai un person 18 oed neu hŷn o bob aelwyd ei gwblhau.
Cofiwch nodi eich ID ymateb ar ôl ei gwblhau.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal yn annibynnol gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig (LPIP). Mae’n cael ei arwain gan yr Athro Michael Woods.
Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn bartneriaeth o brifysgolion, mentrau cymdeithasol, busnesau, a phartneriaid polisi sydd wedi dod at ei gilydd i archwilio sut y gall ymchwil ac arloesi helpu i ddod o hyd i atebion i’r heriau sy’n wynebu cymunedau cefn gwlad Cymru. Fe’i hariennir gan UK Research and Innovation. Cewch fwy o wybodaeth am Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar ein gwefan yn www.lpip.cymru.
Dewiswyd y pedair cymuned er mwyn inni allu cymharu canlyniadau arolwg 2008. Mae’r rhain yn gymunedau sydd:
- o leiaf 30 munud mewn car o rywle gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy
- yn cynnwys llai na 500 o gartrefi
- yn cynnwys llai na 5 allan o’r 12 gwasanaeth allweddol, fel ysgol, siop fwyd neu feddygfa.
Dewiswyd cwestiynau o’r astudiaeth flaenorol. Mae rhai cwestiynau wedi eu hychwanegu i ddiweddaru’r ymchwil. Mae’r cwestiynau’n seiliedig ar brosiectau ymchwil eraill a gynhaliwyd yn ddiweddar ac sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales.
Cynlluniwyd rhai cwestiynau yn dilyn cyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd yn y pedair cymuned rhwng mis Mawrth a mis Mai, oedd yn gwahodd trigolion i godi materion a chwestiynau y gellid eu cynnwys yn yr arolwg. Mae’r dull ymchwil a’r broses recriwtio wedi cael eu hadolygu a’u cymeradwyo gan Fwrdd Moeseg Prifysgol Aberystwyth [Rhif cyfeirnod: 31548Ha].
Bydd eich rhan yn yr arolwg yn cyfrannu at ymchwil fydd yn cael ei defnyddio gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales a rhanddeiliaid eraill i eirioli dros ddiogelu eich cymuned yn y dyfodol.
Byddwn yn rhannu’r canfyddiadau dienw gydag awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, sefydliadau lleol a Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys crynodeb o anghenion cymunedol, megis pam fod angen amddiffyn mynediad at rai gwasanaethau, lleoedd a’u diwylliannau a pha rai. Byddwn yn rhannu argymhellion ar gyfer gwelliannau ymarferol neu welliannau perthnasol i bolisi.
Bydd adroddiad yr ymchwil ar gael ar wefan Cymru Wledig LPIP Rural Wales www.lpip.cymru erbyn mis Rhagfyr 2026.
Byddwn yn cyhoeddi set ddata agored ddienw ar Hwb Data ar-lein Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau lleol i gyrraedd at ddata y gellir ei ddefnyddio i ffurfio prosiectau a cheisiadau am grantiau yn y dyfodol. Ni chasglir unrhyw ddata personol
Darperir y sail gyfreithiol ar gyfer casglu data gan Brifysgol Aberystwyth gan Erthygl 89(1) o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a sail gyfreithiol ar gyfer cadw a phrosesu data hefyd yw ei bod yn ‘dasg er budd y cyhoedd’ o dan GDPR. Rydych chi’n cadw’r holl hawliau a ddarperir gan y ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am bolisi Diogelu Data Aberystwyth ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/corporate-information/information-governance/data-protection/
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu’r ymweliad, cysylltwch â lpip@aber.ac.uk yn y lle cyntaf a bydd eich ymholiad yn cael ei drosglwyddo i’r tîm ymchwil sy’n hapus i gynorthwyo.
Os hoffech chi wneud cwyn ar unrhyw adeg am yr ymchwil, gallwch gysylltu â ni ar lpip@aber.ac.uk a byddwn yn ymateb. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich pryderon yn cael sylw, cysylltwch â ethics@aber.ac.uk.
Mae croeso ichi dynnu’n ôl o’r ymchwil hyd at y 30ain o Fedi 2026 trwy e-bostio lpip@aber.ac.uk a nodi cyfeiriad eich cartref os ydych wedi cwblhau copi ar bapur neu ateb ar y drws, a gofyn am gael gadael yr arolwg ardaloedd. Os ydych chi wedi cyflwyno ymateb ar-lein, nodwch eich ID ymateb unigryw a roddwyd ichi ar ôl cwblhau’r arolwg gyda’ch gohebiaeth.
Diolch am eich cydweithrediad
Gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg ac edrychwn ymlaen at fwrw ymlaen â’r dadansoddiad o ymatebion eich cymuned.