Rhannodd yr Athro Michael Woods o Brifysgol Aberystwyth ymchwil ddiddorol yn ystod cyfres o gyfarfodydd yn San Steffan ym mis Ionawr ynglŷn ag un o’r materion mwyaf heriol sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Nghymru; ‘pobl ifanc coll’. Mae’r duedd hon o bobl ifanc yn ymfudo o gymunedau gwledig Cymru i ddinasoedd mwy, neu’n gadael Cymru yn gyfan gwbl, wedi gadael ei farc ar sawl rhan o gefn gwlad Cymru, gyda phoblogaethau sy’n heneiddio o hyd, y newid mewn demograffeg a’r gwahaniaethau o ran adnoddau lleol (megis cau ysgolion a goblygiadau hynny o ran y Gymraeg).

Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Arloesi Cymru, ymunodd yr Athro Woods ag ymchwilwyr eraill yn Nhŷ’r Cyffredin i gyflwyno’r dystiolaeth hon gerbron Aelodau Seneddol ac Arglwyddi o Gymru a gweddill y DU. Gan ddenu llunwyr polisi o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, tynnodd yr Athro Woods sylw at arwyddocâd ac effaith mudo ymysg pobl ifanc a’r niwed y mae’n ei achosi i gymunedau Cymru, gan ddangos sut y gall llunwyr polisi ddefnyddio ymchwil academaidd a data ystadegol i sicrhau newid cadarnhaol.

Dysgodd ASau ac Arglwyddi sut mae allfudo ymysg pobl ifanc wedi arwain at newid sylweddol yng nghyfansoddiad traddodiadol cymunedau. Fe wnaeth yr Athro Woods a’i dîm arolygu dros 1,000 o bobl o gymunedau gwledig yng Nghymru sy’n amrywiol yn ddaearyddol, gan ddarganfod y prif ffactorau sy’n eu hysgogi i adael. Y prif ysgogwyr a nodwyd oedd addysg bellach neu addysg uwch, diffyg cyflogaeth leol yn eu gyrfaoedd dewisol a diffyg tai fforddiadwy. O ganlyniad, mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth glir bod angen i lunwyr polisi ac arweinwyr lleol a chenedlaethol ystyried yn gryf y mentrau sy’n angenrheidiol i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.

Yn dilyn y cyfarfodydd yn San Steffan, mae’r Aelodau Seneddol Ann Davies o Gaerfyrddin a Catherine Fookes o Sir Fynwy wedi dyfynnu’r ymchwil yn y cyfryngau cenedlaethol ac yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, gan dynnu sylw pellach at y mater hwn a’i roi ar yr agenda genedlaethol.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Woods hefyd yn Gyfarwyddwr prosiect ymchwil newydd wedi’i ariannu gan y llywodraeth (UKRI), LPIP Cymru Wledig, sy’n datblygu nifer o gynigion ymchwil newydd i archwilio heriau ychwanegol sy’n wynebu cefn gwlad Cymru, ac yn darparu canllawiau i lunwyr polisi.

Yn 2021, cynhaliwyd arolwg ‘Rural Areas’ Lost Youth’, gyda 1,054 o bobl ifanc rhwng 16-24 oed yng nghefn gwlad Cymru fel rhan o brosiect HORIZON 2020 Robust. Cyflwynwyd yr ymchwil yn San Steffan yn ystod yr Wythnos Dystiolaeth, mewn cydweithrediad â’r sefydliad Sense About Science.