Mewn blog blaenorol, nodwyd llwyddiant ymweliad â San Steffan ym mis Ionawr 2025, lle cyfarfu ASau, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a chynrychiolwyr seneddol â’r Athro Michael Woods (Cyfarwyddwr) a minnau (Rhian Curtis, Swyddog Ymgysylltu), wrth i ni gyflwyno LPIP Cymru Wledig. Ar y pryd, roedden ni wedi cyffroi ynghylch y posibilrwydd o ymgysylltu ag arweinwyr gwleidyddol a rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a manteisio ar y momentwm hwn i ddatblygu dull mwy strategol o ymgysylltu gwleidyddol a chefnogi newid polisi.

Yn rhinwedd trafodaethau dilynol a galwadau Zoom gydag ASau eraill, trodd y sgwrs at bwnc tlodi plant a sut roedd hynny’n amlygu ei hun yng nghefn gwlad Cymru. Beth ellir ei wneud? Gydag agenda wedi’i chymell gan AS o Gymru a’i chefnogi gan aelodau Cymreig o Dŷ’r Arglwyddi, mae’r gweithgaredd ymgysylltu ym mis Ionawr wedi arwain bellach at y posibilrwydd y bydd yr Athro Woods yn darparu tystiolaeth mewn cyfarfod Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar y pwnc (y dyddiad i’w gadarnhau). Mae hwn yn ganlyniad gwych sydd wedi deillio o’n trafodaethau cychwynnol gyda’r gwleidyddion, a phrosesau o nodi meysydd lle gallai ein hymchwil helpu i wneud gwahaniaeth.

Yn fuan wedyn daeth y cyfle i fynychu lansiad adroddiad blynyddol Rhwydwaith Arloesi Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth, gyda stondin arddangos LPIP Cymru Wledig. Er bod Rhwydwaith Arloesi Cymru ei hun wedi gwahodd yr holl Aelodau o’r Senedd i fynychu a siarad â’r arddangoswyr, roedd Dr Siobhan Maderson (Rheolwr Arloesi) a minnau eisiau dangos y gwerth ychwanegol o gyfarfod â ni i bob Aelod. Cysylltwyd â phob Aelod o’r Senedd yn bersonol, gan ganolbwyntio ar eu meysydd blaenoriaeth neu leoliad eu hetholaeth o ran ardaloedd gwledig Cymru, a’u gwahodd i drafod ein hymchwil yn y digwyddiad. Roedd yn eithaf doniol pan gyhoeddodd un Aelod o’r Senedd ei bresenoldeb: ”Fe wnaethoch chi anfon e-bost ata i a gofyn i fi ddod i siarad â chi am gefn gwlad Cymru, felly dyma fi!” Er ei fod wedi gorddweud natur y gwahoddiad rhywfaint efallai, roedd yn ffordd wych o ddechrau sgwrs am ein prosiectau ymchwil, a sut y bydden ni’n gallu cydweithio ymhellach, yn enwedig o ran un o’i brif bryderon am gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhanbarthau gwledig.

Hefyd yn bresennol yn nigwyddiad y Senedd y diwrnod hwnnw roedd swyddogion llywodraeth leol a chynrychiolwyr o’r sector busnes a’r sector elusennol, ynghyd ag arbenigwyr adfywio economaidd. Mewn sgwrs lwyddiannus arall, gofynnodd unigolyn blaenllaw o un cyngor sir am ragor o wybodaeth am ein prosiect ymchwil i dwf mewn trefi gwledig yng Nghymru, gan fod yr Aelod yn dymuno gweld a fyddai modd gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwil yn ei rhanbarth hi ei hun.

Ym mis Ebrill wedyn, cefais y pleser o gyfarfod ag Aelod Seneddol arall o Gymru sy’n cynrychioli etholaeth lle mae tueddiad i bobl ifanc adael er mwyn chwilio am waith neu addysg mewn mannau eraill. Fodd bynnag, roedd cyflogwyr yn y rhanbarth yn sôn am swyddi heb eu llenwi, anallu i recriwtio a’r her o ddod o hyd i staff lleol i ymuno â’u cwmnïau. Roedd yr Aelod Seneddol eisiau mynd i graidd y gwirionedd. A fyddai modd gwneud rhywbeth? A fyddai LPIP Cymru Wledig yn gallu helpu? Y gwir amdani yw ei bod hi’n bosib y gallwn ni, ac rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych ar ddichonoldeb cydweithio ar arolwg cyflogaeth. Rwy’n credu bod hon yn enghraifft berffaith o sut y gallwn ni fanteisio ar arbenigedd ein hymchwilwyr i gydweithio â gwleidydd blaenllaw ar brosiect a allai arwain at greu menter sgiliau a chyflogaeth newydd yn yr ardal wledig hon o Gymru.

I ble rydyn ni’n mynd nesaf felly? Beth sydd nesaf yn ein calendr ymgysylltu â pholisi? Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ôl yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf, a bydd LPIP Cymru Wledig yno ac yn ymgymryd â nifer o weithgareddau. Byddwn yn cynnal digwyddiad ffurfiol, ac yn gwahodd pob un o’r Aelodau o’r Senedd, ASau ac Arglwyddi Cymru i fynychu, ymhlith rhanddeiliaid eraill, nid yn unig i lansio ein hadroddiad blynyddol cyntaf a rhannu canfyddiadau ein hymchwil hyd yma, ond hefyd i ddysgu mwy am flaenoriaethau’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, a dangos sut y gallwn ni rannu tystiolaeth, darparu dadansoddiad ac argymhellion ac, yn y pen draw, cydweithio ar fentrau i ddod ag atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru.