Ymchwil sy’n Dylanwadu ar Lunio Polisïau yng Nghymru: Llwyddiant Ymgysylltu LPIP Cymru Wledig
Rhannu:
Mae ymgysylltu â llunwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru (a’r DU) wedi bod yn elfen greiddiol o weithgareddau LPIP Cymru Wledig dros y 18 mis diwethaf. Mae ein strategaeth ymgysylltu ragweithiol wedi sicrhau bod gwaith ymchwil a dadansoddi anhygoel ein timau prosiect ynghyd â’u hargymhellion polisi wedi bod o fudd i gymunedau trwy gyrraedd y rhanddeiliaid hynny sydd â’r grym i arwain newid a thrawsnewid bywydau yng nghefn gwlad Cymru. Roedden ni’n arbennig o falch yr wythnos diwethaf o weld Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn dyfynnu gwaith ein Rheolwr Arloesi, Dr Siobhan Maderson, yn eu hadroddiad newydd: Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru.
Ar ôl cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Senedd, yn dilyn yr alwad i ymgynghori yr haf diwethaf, cyfarfu Dr Maderson hefyd â chynrychiolwyr o Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Awst 2025, lle roedd gan LPIP Cymru Wledig bresenoldeb cryf. Drwy hybu proffil y LPIP drwy ein gweithgareddau ymgysylltu amrywiol, rydyn ni wedi datblygu perthynas gadarnhaol gyda nifer o’r Aelodau o’r Senedd, pwyllgorau a’r tîm ymchwil canolog. Mae hyn yn ategu ein gweithgareddau ymgysylltu â pholisi gyda llywodraeth ganolog y DU, gan gynnwys aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin, gyda Dr Maderson yn cyfarfod â Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion Preseli, yr wythnos diwethaf. Tynnodd y drafodaeth sylw at sut mae gwneud buddsoddiadau wedi’u targedu o ran addysg, seilwaith a logisteg yn gallu mynd yn bell i gryfhau gwydnwch system fwyd leol, cynyddu opsiynau cyflogaeth i’n pobl ifanc a mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd.
Gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel, edrychwn ymlaen at ymgysylltu ymhellach â gwleidyddion Cymru dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod y materion hynny sy’n effeithio fwyaf ar y Gymru wledig yn cael lle blaenllaw ar yr agenda bolisi. Bydd maniffesto LPIP Cymru Wledig yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ac edrychwn ymlaen at ei rannu gyda phob plaid wleidyddol yng Nghymru, gan ddarparu tystiolaeth ac argymhellion i gefnogi polisïau’r dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â lpip@aber.ac.uk