Amlgyfrwng
Mae’r ffilm ‘Am Ein Bywydau’, a gomisiynwyd gan Cymru Wleding LPIP Rural Wales ar y cyd gyda Pontio, yn waith newydd gan y gwneuthurwr ffilm Rhys Edwards. Mae’r ffilm yn myfyrio ar y cysylltiadau dwfn rhwng pobl, tirwedd a threftadaeth byw. Trwy leisiau Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, mae’n archwilio sgiliau traddodiadol, gwybodaeth am natur, a’r enwau lleoedd sy’n gwreiddio yn ein cymunedau.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ymchwil ehangach sy’n archwilio i dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol cymunedau gwledig yng Nghymru. Bydd addroddiad llawn y prosiect yn cael ei gyhoeddi, ac ar gael i lawrlwytho o’r wefan yn yr Haf, 2026.