Er mai’r haf yw’r amser traddodiadol i weithgareddau dawelu ychydig ym myd addysg uwch, yn sicr nid dyna sut oedd hi yn achos LPIP Cymru Wledig, gyda nifer o ddigwyddiadau polisi ac ymgysylltu yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Uchafbwynt calendr mis Gorffennaf yw achlysur hynod boblogaidd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, sy’n dwyn ynghyd unigolion a grwpiau o’r sectorau ffermio ac amaeth, yn ogystal â’r holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn materion gwledig. Gan fanteisio ar yr angerdd hwn am faterion sy’n effeithio ar fywyd mewn ardaloedd gwledig, a gyda miloedd o bobl wedi ymgynnull ar gyfer yr ŵyl flynyddol hon, trefnodd LPIP Cymru Wledig raglen lawn fel rhan o’n gweithgareddau ymgysylltu. Lansiwyd yr wythnos gyda digwyddiad ynghlwm wrth bolisi, lle traddododd y Cyfarwyddwr, yr Athro Michael Woods, sgwrs fer ar bum her allweddol o ran polisi i’r Gymru wledig yn etholiadau’r Senedd 2026. Cafodd y sgwrs ei chyflwyno mewn derbyniad gyda’r nos a fynychwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd Huw Irranca-Davies, nifer o Aelodau o’r Senedd ac ASau, arweinwyr cynghorau a chynrychiolwyr o ystod o sefydliadau rhanddeiliaid.

Dathlwyd yr ymchwil a’r rhai sydd wedi cyfrannu at y prosiect Menywod ac Arallgyfeirio Ffermydd, dan arweiniad yr Athro Sara MacBride-Stewart a Dr Alison Parken, mewn digwyddiad rhyngweithiol yn ddiweddarach yn yr wythnos, lle casglwyd ymatebion cyn cyhoeddi ymchwil arfaethedig y prosiect.

Yn olaf, cafwyd sgyrsiau manwl gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn ogystal â gwleidyddion etholedig eraill o’r prif bleidiau gwleidyddol. Rhannwyd manylion ein prosiectau ymchwil, gan nodi meysydd cyffredin, a chynigiwyd ein harbenigedd i gefnogi’r data a’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu addewidion ar gyfer y maniffestos sy’n cael eu hysgrifennu wrth baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd. Gwahoddwyd yr Athro Woods i gyfrannu at lansiad Maniffesto Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fodd bynnag, efallai mai uchafbwynt yr wythnos oedd ymgynghoriad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar y diwydiant prosesu bwyd, a gynhaliwyd ar faes y Sioe, ac y cawsom ein gwahodd iddo.

Dyfynnwyd adroddiad blynyddol LPIP Cymru Wledig bedair gwaith gan aelodau’r Pwyllgor, gan dynnu sylw at ein llwyddiant wrth ymgysylltu â llunwyr polisi hyd yma, a chodi proffil ein hymchwil.

Ar ôl y Sioe Frenhinol, symudwyd o ganolbarth Cymru ym mis Gorffennaf i’r gogledd ym mis Awst, i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd yn Wrecsam eleni. Unwaith eto, ein ffocws oedd cyflwyno gwaith LPIP Cymru Wledig i amrywiaeth o randdeiliaid a’r cyhoedd, gan ganolbwyntio’r tro hwn ar yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, a chyfathrebu sut y gallai’r cyhoedd ymgysylltu â’n hymchwil. Cyflawnwyd hyn drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau: y cyntaf yn tynnu sylw at gysyniad y Labordai Arloesi (mewn cydweithrediad â’n partner strategol, y Ganolfan Technoleg Amgen), gan annog y gynulleidfa i gymryd rhan mewn gweithdy ffug Labordy Arloesi, lle daethpwyd i’r casgliad mai trafnidiaeth gyhoeddus oedd y rhwystr mwyaf arwyddocaol o ran atal datblygu yng nghefn gwlad Cymru, a lle cyfeiriwyd at amrywiaeth o gynigion y bydden nhw’n hoffi eu cyflwyno i lunwyr polisi.

Cynhaliodd Dr Eifiona Lane a Dr Elen Bonner o Brifysgol Bangor ddau ddigwyddiad i gyflwyno eu prosiect ymchwil diweddaraf o dan faner LPIP Cymru Wledig, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol y mae’n amhosib ei mesur yn fanwl. Cafwyd derbyniad hynod dda i’r sgwrs ymhlith y gynulleidfa Cymraeg ei hiaith.

Cynhaliwyd un digwyddiad olaf mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Gyda’n Gilydd dros Newid, lle hyrwyddwyd Ymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned a hybwyd ymwybyddiaeth o’r grantiau newydd o £20,000 sydd ar gael i grwpiau cymunedol.

Drwy gydol wythnos yr Eisteddfod, mynychodd cydweithwyr nifer o ddigwyddiadau gan y llywodraeth a chymdeithasau sifil, gan fanteisio ar bresenoldeb cynrychiolwyr llywodraeth Cymru ac arweinwyr sefydliadau anllywodraethol i edrych ar bolisïau, cyflwyno ein barn ein hunain a chynnig cefnogaeth.

Felly beth ydyn ni wedi’i ddysgu yn ystod yr haf hwn? Beth wnaethon ni ei gyflawni, a beth fydd yn digwydd nesaf?

Roedd yn amlwg o ymatebion llunwyr polisi bod ein hymchwil yn cael ei rannu ar lefelau uchaf y llywodraeth a chymdeithas. Roedd yn galonogol clywed ein prosiectau yn cael eu dyfynnu’n gyhoeddus, a chael gwleidyddion blaenllaw yn datgan sut bydd ein gwaith yn cyfrannu at les cefn gwlad Cymru yn y dyfodol. Er eu bod yn cymryd llawer o amser ac yn aml yn heriol, mae gweithgareddau’r haf hwn wedi dangos i ni fod effaith dylunio strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu sydd wedi’i dargedu er mwyn rhannu’r ymchwil yn werth yr ymdrech. Mae’n gyffrous gwybod bod data a dadansoddi o’n prosiectau yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y dull sy’n cael ei fabwysiadu gan swyddogion etholedig. Rydyn ni wedi creu cyfres o bapurau briffio ar bolisi i ddistyllu adroddiadau ymchwil yn argymhellion clir i lunwyr polisi, ac edrychwn ymlaen at wneud mwy o waith ar hyn yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig gydag etholiadau’r Senedd yn prysur agosáu, a chyn ein presenoldeb yng Nghynhadledd y Blaid Lafur (Lerpwl, Medi 2025).

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau polisi ac ymgysylltu LPIP Cymru Wledig, cysylltwch â Rhian Curtis, rhc33@aber.ac.uk