Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (Cymru Wledig LPIP Rural Wales) yn cynnig pedwar cyfle i ymuno â thîm Cymru Wledig LPIP Rural Wales ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor neu Gaerdydd ar leoliadau â thâl am gyfnod penodol i ymgymryd â darn o waith ymchwil neu ddadansoddiad fydd yn cefnogi eich gwaith proffesiynol a/neu weithgareddau cymunedol o fewn cwmpas themâu Cymru Wledig LPIP Rural Wales.

Beth sydd ar gael?

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cynnig pedwar lleoliad o hyd at 60 diwrnod yr un, y gellir eu cynnal ar un o’r ffurfiau canlynol:

  • Llawn amser – am 3 mis (37.5 awr yr wythnos)
  • Hanner amser am 6 mis (18.75 awr yr wythnos)

Gall y lleoliadau ddechrau ar unrhyw ddyddiad o 1 Mehefin 2026 ymlaen a rhaid eu cwblhau erbyn 30 Tachwedd 2026.

Mae dau leoliad ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth, un ym Mhrifysgol Bangor, ac un ym Mhrifysgol Caerdydd (dim ond ar sail amser llawn y mae lleoliad ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael). Disgwylir i’r Cymrawd Lleoliad weithio ar y campws gyda thîm Cymru Wledig LPIP Rural Wales am o leiaf un diwrnod yr wythnos ar leoliad llawn amser (neu gyfran debyg o amser ar gyfer lleoliadau rhan-amser), a gallai gweithio o bell fod yn bosib am weddill y cyfnod.

Bydd y Cymrodyr Lleoliad yn derbyn contract cyflogaeth gyda’r brifysgol letyol a byddant yn cael tâl sy’n cyfateb i gyflog cynorthwyydd ymchwil, tua £32,546 y flwyddyn pro rata (neu £8,136 am 3 mis llawn amser) (gall yr union gyflog amrywio rhwng y prifysgolion). Gan y rhagwelir y bydd y Cymrawd Lleoliad yn cymryd amser o’u cyflogaeth reolaidd, cyfrifoldeb y Cymrawd Lleoliad yw trafod gyda’u cyflogwr a ellir ychwanegu at y cyflog hwn o’u cyflog rheolaidd a/neu a ddefnyddir y cyflog sy’n cael ei hepgor i ôl-lenwi eu gwaith arferol.

Pwy gaiff wneud cais

Mae’r cyfleoedd lleoliad yn agored i unrhyw un sydd:

  • Yn cael ei gyflogi gan gorff cyhoeddus, sefydliad trydydd sector, busnes, menter gymdeithasol, neu sefydliad cymunedol mewn rôl sy’n cefnogi datblygiad cynhwysol, cynaliadwy a/neu lunio neu gyflwyno polisi yng Nghymru Wledig.
  • Yn wirfoddolwr gydag elusen, sefydliad trydydd sector neu sefydliad cymunedol mewn rôl sy’n cefnogi datblygu cynhwysol, cynaliadwy a/neu gydlyniant cymunedol yng Nghymru Wledig.
  • Yn hunangyflogedig mewn rôl sy’n cefnogi datblygu cynhwysol, cynaliadwy a/neu gydlyniant cymunedol yng Nghymru Wledig.

Croesewir ceisiadau yn arbennig gan unigolion o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y cymunedau ymchwil a pholisi neu y gallai eu diddordebau fod yn cael eu tangynrychioli mewn trafodaethau polisi gwledig, gan gynnwys, ond nid yn unig, lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol, pobl ag anableddau, Teithwyr, aelodau o’r gymuned LHDTC+, ac aelwydydd incwm isel. Darperir cymorth mentora ychwanegol i unigolion nad ydynt yn gyfarwydd â’r amgylchedd ymchwil/prifysgol er mwyn magu hyder a sicrhau effeithiolrwydd.

Beth fydd y lleoliad yn ei gynnwys?

Bydd y Cymrawd Lleoliad yn gweithio gydag aelod o dîm Cymru Wledig LPIP Rural Wales ar brosiect ymchwil neu ddadansoddi sy’n mynd i’r afael â phwnc y maent wedi’i gynnig. Gallai hyn fod ar sawl gwahanol ffurf, ond mae enghreifftiau dangosol yn cynnwys:

  • Dadansoddi data’r Cyfrifiad ac ystadegau eraill i edrych ar amrywiadau neu dueddiadau daearyddol dros amser.
  • Dadansoddi data a gasglwyd gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales, e.e. trwy arolygon neu brosiect ymchwil ymatebol, i archwilio agwedd benodol sy’n berthnasol i waith eich mudiad.
  • Ymchwilio i ‘beth sy’n gweithio’ wrth fynd i’r afael â her benodol trwy astudio mentrau yng Nghymru, y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol trwy chwiliadau a chyfweliadau ar-lein.
  • Archwilio effeithiolrwydd neu effaith hirdymor polisïau neu brosiectau datblygu blaenorol trwy ddadansoddi amrywiol ffynonellau data.
  • Casglu data newydd trwy arolwg bychan, grwpiau ffocws, neu gyfweliadau i ddeall problem benodol yn well.
  • Cyfweld â chydweithwyr yn eich sefydliad i adolygu sut mae’n gweithio mewn perthynas â maes polisi neu her benodol ac ystyried sut y gellir gwella prosesau.
  • Datblygu ar gyfranogiad mewn Labordy Arloesi i edrych yn fwy manwl ar hyfywedd ‘ateb’ a gynigir.
  • Datblygu ar gyfranogiad mewn prosiect Ymchwil Gweithredu dan arweiniad y Gymuned i ymchwilio i bwnc yn fanylach neu gymharu â chymunedau eraill.

Y prif amod yw bod yn rhaid i’r pwnc arfaethedig ddod o fewn un o bedair thema Cymru Wledig LPIP Rural Wales:

  • Adeiladu Economi Adfywiol
  • Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol
  • Gwella Lles yn ei Le
  • Cefnogi’r Pontio i Sero Net

Drwy gydweithio ag aelod o dîm Cymru Wledig LPIP Rural Wales, bydd y Cymrawd Lleoliad yn elwa o’u harbenigedd proffesiynol, eu sgiliau a’u harweiniad ar y broses ymchwil, ond bydd cyfle hefyd i’r Cymrawd Lleoliad ddysgu a datblygu sgiliau a chymwyseddau newydd.

Bydd y Cymrawd Lleoliad hefyd yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm a Dyddiau i’r Cwmni Cymru Wledig LPIP Rural Wales a bydd cyfleoedd i gyfrannu at brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau eraill Cymru Wledig LPIP Rural Wales, fel sy’n briodol i ddiddordebau, sgiliau ac amser y Cymrawd Lleoliad.

Bydd gofyn i’r Cymrawd Lleoliad gynhyrchu adroddiad byr ar ei waith fydd ar gael i’r cyhoedd, fodd bynnag, bydd y data manwl, y canfyddiadau a’r gwersi ar gael i’r Cymrawd Lleoli fynd yn ôl i’w sefydliad a’u defnyddio yn ei waith.

Sut i Wneud Cais

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen gais ar-lein, erbyn 09:00 ddydd Gwener 17 Ebrill. Cynhelir cyfweliadau gydag ymgeiswyr y rhestr fer yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Ebrill 27.

Ceir cyflwyno’r ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae’r ffurflen gais yn gofyn am amlinelliad o’r prosiect ymchwil neu ddadansoddi arfaethedig, gan gynnwys pam fod y pwnc yn bwysig, y canlyniadau neu’r effeithiau disgwyliedig, a sut y byddwch yn mynd ati i gyflawni’r prosiect. Mae’n gofyn hefyd sut mae eich hyfforddiant, profiad proffesiynol a/neu brofiad bywyd wedi eich paratoi i fynd i’r afael â’r prosiect, ac yn holi am eich amcanion personol ar gyfer y lleoliad (e.e. cael mewnwelediad i fater penodol, dysgu sgiliau newydd, cynyddu dealltwriaeth o ymchwil neu ddata, datblygiad proffesiynol), yn ogystal â lle hoffech chi gael eich lleoli a pha ddyddiadau.

Caiff y ceisiadau eu hasesu gan aelodau Grŵp Gweithredol Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: (1) Arwyddocâd y pwnc a’r effaith debygol; (2) Dichonoldeb y prosiect; (3) Gallu’r ymgeisydd i ymgymryd â’r prosiect; (4) Budd i’r ymgeisydd; (5) Addasrwydd i gylch gwaith a themâu Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Rhoddir ystyriaeth hefyd i amrywioldeb y Cymrodyr Lleoliad a benodir.

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Athro Michael Woods, m.woods@aber.ac.uk