Cyfres yr Hydref o Weithdai a Seminarau Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cael ei lansio ym mis Medi
Rhannu:
Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid, yn lansio eu cyfres o weithdai a seminarau i’r hydref ar gyfer unrhyw un sydd mewn cymuned, neu sy’n gweithio gyda chymunedau, a hoffai ddefnyddio ymchwil fel offeryn ar gyfer gweithredu.
Gan adeiladu ar sylfaen yr 11 sesiwn flaenorol, bydd dwy sesiwn gyntaf yr hydref, sydd wedi’u hariannu’n llawn, yn defnyddio ymchwil newydd sbon i gefnogi gweithredu cymunedol go iawn.
Cofiwch archebu’ch lle ar bob sesiwn unigol sydd o ddiddordeb i chi drwy’r dolenni isod, a chofiwch gofrestru ar-lein i dderbyn hysbysiadau newyddion am y gyfres o seminarau.
Byddwn yn recordio pob sesiwn lle bo hynny’n briodol ac yn sicrhau eu bod ar gael ar ein sianel Vimeo. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am thema a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer sesiwn, anfonwch e-bost at post@tfc.cymru.
Dyma rai dyfyniadau dienw gan bobl a fynychodd sesiynau blaenorol, mewn ymateb i’r cwestiwn: ‘A yw’r gweithdy wedi newid sut rydych yn meddwl am y pwnc hwn, neu sut rydych yn bwriadu gweithredu arno yn eich gwaith? Os felly, sut?’
“Byddaf yn parhau i wneud yr hyn rwy’n ei wneud ac yn lledaenu’r neges — mae’n galonogol clywed bod eraill yn rhannu’r weledigaeth a’r angerdd dros y gwaith hwn.”
“Mae’n gwneud iddo deimlo’n fwy ymarferol ac yn ein helpu i ddychmygu ffordd ymlaen.”
“Bydd yn fy helpu i addasu fy ffordd o weithio, yn enwedig o ran data ar gyfer ceisiadau am gyllid a dylunio prosiectau/gwasanaethau.”
“Rwy’n credu fy mod yn dod ar draws cryn dipyn o farn negyddol am feithrin cyswllt â chymunedau o fewn y diwydiant cadwraeth, felly mae’n wych gweld gwaith cadarnhaol yn digwydd gyda’r cymunedau hyn, ac mae wedi rhoi agwedd gadarnhaol i mi wrth edrych tua’r dyfodol.”
“Do, rhoddodd awgrymiadau da, ac roedd yn ddiddorol clywed beth mae pobl eraill yn ei wneud.”
“Mae wedi fy annog i barhau i fod yn rhan o bethau a pheidio â rhoi’r gorau iddi pan fo pethau mor anodd ar hyn o bryd.”
Canfyddiadau o Dwf a manteision Partneriaethau Trefol: Astudiaethau Achos o bob cwr o’r DU
09 Medi 2026, 12:30 – 14:00 – Ar-lein
Ymunwch â Dr Sophie Bennett-Gillison (Prifysgol Aberystwyth), Dr Eifiona Thomas Lane (Prifysgol Bangor) a Julie Gibbon (Cadeirydd, Partneriaeth Haltwhistle https://haltwhistle.org/) a fydd yn rhannu gwybodaeth newydd am ystyr gwirioneddol ‘twf’ a gafwyd o’u gwaith ymchwil ddiweddar yng Nghymru a Northumberland, a sut allwn ei feithrin drwy bartneriaethau cymunedol/trefol.
Mae’r Llywodraeth yn sôn o hyd am annog twf economaidd, ond pwy sy’n diffinio twf yn hyn o beth, ac a yw ystyr twf yn amrywio o berson i berson?
Bydd Julie yn egluro sut mae Partneriaeth Haltwhistle, sy’n anelu at gefnogi a buddsoddi mewn mentrau a gweithgareddau cymunedol yn Haltwhistle, Northumberland, wedi bod o fudd i’r dref. Bydd Sophie ac Eifiona yn trin a thrafod y syniad na ddylai twf, os am feithrin mentrau yng nghefn gwlad y DU, ganolbwyntio’n ormodol ar swyddi, trosiant neu gynhyrchiant. Dylent, yn hytrach, ganolbwyntio hefyd ar gapasiti lleol ar gyfer busnesau newydd, ar y ddarpariaeth o wasanaethau lleol, ac ar wella ansawdd a goroesiad ymhlith busnesau lleol. Gall twf fod olygu gwelliannau cyson rhag symud ‘am yn ôl’ yn ogystal â golygu ‘gwneud yn well’ yn hytrach na ‘gwneud mwy’.
Bydd y seminar hon yn cynnwys trafodaeth ‘datrys problemau’. Yma, gall aelodau o’r gymuned gyflwyno enghreifftiau o dwf, neu’r potensial ar gyfer twf, o’u trefi eu hunain i’w trafod gydag aelodau’r panel. Gallant gynnig gwybodaeth ar sut i feithrin modelau twf amgen a chreu neu gynnal partneriaethau trefol.
Nodwyd saith math o dwf yn yr ymchwil:
- Twf fel ffordd o feithrin cymuned.
- Twf o’r gwaelod i fyny yn dod o’r gymuned ac wedi’i gyfuno â goroesiad y lle, yn cynnwys ei ddiwylliant, ei bobl a’i draddodiadau.
- Twf fel ffordd o barhau a goroesi gan gwmpasu busnesau ffordd o fyw.
- Twf trwy gyfrwng cyfleoedd gan ganolbwyntio ar y boblogaeth a’r gallu i gadw neu ddenu pobl ifanc i’r trefi hyn.
- Twf sylfaenol fel bod pobl yn teimlo balchder, gobaith ac ymdeimlad o berthyn mewn perthynas â’u lleoedd.
- Twf cynaliadwy fel rhywbeth hirdymor, parhaus, cynaliadwy, ecogyfeillgar ac yn canolbwyntio ar y ‘dyfodol’.
- Mae cysyniadau traddodiadol o dwf yn cynnwys cynnydd mewn cynnyrch domestig gros, gwerth ychwanegol gros, cyflogau, swyddi, gweithgynhyrchu, adeiladu, gwerthiannau, buddsoddiadau a throsiant.
Aml-ddatrysiad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd – gweithdy ymarferol i gymunedau
14 Hydref 2026, 13:00 – 14:30 – Ar-lein
Ymunwch â Dr Sophie Wynne-Jones a Dr Elen Bonner o Brifysgol Bangor i ddeall sut y gall arwain gyda buddiannau lluosog adeiladu sylfaen ar gyfer ymgysylltu dyfnach ar yr hinsawdd yn eich ardal chi.
Rhai o fanteision lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yw biliau is, cartrefi iachach, opsiynau trafnidiaeth gwell, natur a diwylliant ffyniannus, ac economïau lleol cryfach ond a yw’r rhain yn cael eu trafod ddigon?
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut y gall gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ddigwydd o ganlyniad i ddiwallu anghenion bob dydd, yn hytrach nag fel pwynt gwerthu ymlaen llaw, fel y gellir normaleiddio ymddygiadau sy’n ystyriol o’r hinsawdd trwy eu gwneud yn ymarferol ac yn apelgar.
Bydd ein siaradwyr yn rhannu enghreifftiau o sut mae gweithio gyda chymunedau i sefydlu blaenoriaethau lleol yn allweddol i sut y gall ardaloedd gwledig arfer arweinyddiaeth hinsawdd mewn ffyrdd sy’n effeithiol ac yn gymdeithasol dderbyniol. Trwy ddechrau o brofiad, cyd-destunau, hanesion a blaenoriaethau lleol, mae mentrau’n gallu datblygu ymyriadau sy’n teimlo’n berthnasol ac yn gyraeddadwy.
Trwy weithgareddau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn:
- Ailarchwilio prosiectau presennol i nodi eu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cudd, gan gryfhau’r achos dros weithredu
- Ystyried meithrin partneriaethau lleol cryfach.
- Nodi lle gallai cyfathrebu’n wahanol gael effaith gadarnhaol.
Bydd cyfranogwyr yn gadael gydag offer ymarferol, safbwyntiau newydd, a chamau nesaf clir i ymgorffori aml-ddatrysiad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd yn eu gwaith bob dydd.