Ein gwaith
Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn dilyn rhaglen waith ymatebol sy’n cael ei llunio gan yr anghenion tystiolaeth a’r heriau polisi a nodwyd gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid mewn llywodraeth genedlaethol a lleol, asiantaethau cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector, a chymunedau. Mae pob un o’n ffrydiau gwaith yn cynnwys gwahanol ddulliau ar gyfer cysylltu ymchwil, arloesi a pholisi. Mae rhai’n canolbwyntio ar ddatblygu atebion arloesol i broblemau anodd, eraill ar gasglu a dadansoddi data i gefnogi llunio polisïau effeithiol, ac eraill ar gyfarparu cymunedau i gynnal ymchwil i fynd i’r afael â phroblemau a nodwyd yn lleol.