Ymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned
Y Tîm: Jessie Buchanan, Amy Nicholass, Abby Poulson.
Nod ein Hymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned oedd rhoi’r adnoddau i gymunedau gwledig i gasglu a dadansoddi tystiolaeth i fynd i’r afael â heriau ac anghenion polisi a nodwyd yn lleol. Gan weithio gyda mentor academaidd penodedig, mae cyfranogwyr cymunedol yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar fater o’u dewis, yn casglu ac yn dadansoddi data ac yn cytuno ar gamau dilynol. Rydym yn rhagweld y gellid defnyddio canlyniadau’r ymchwil i ddod o hyd i atebion y gellir eu cyflwyno o fewn y gymuned, i gefnogi ceisiadau am gyllid allanol, neu i gyflwyno achos dros fuddsoddi neu newidiadau polisi i lywodraeth leol neu genedlaethol neu i asiantaethau cyhoeddus.
Cam cyntaf yr ymchwil oedd gweithio mewn pump cymuned beilot yng Nghorwen (mewn partneriaeth â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych), ardal Biosffer Dyfi (mewn partneriaeth Biosffer Dyfi), y Drenewydd, penrhyn Tyddewi, a Thrawsfynydd.
Yn yr ail gam, cynhaliodd Cymru Wledig LPIP Rural Wales gystadleuaeth ariannu oedd yn agored i unrhyw sefydliad cymunedol yng Nghymru Wledig. Cawsom bron i 50 o geisiadau o ansawdd uchel ac amrywiol ac o’r rheiny dewiswyd chwech i gael eu hariannu am chwe mis o Ionawr 2026. Roeddynt yn Nyffryn Nantlle (Siop Griffiths Cyf); Bangor (Frân Wen); Llyn Padarn (Eryri-Bywiol Cyf); Dyffryn Peris (Partneriaeth Dyffryn Peris); Llandysul (Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen); a Sir Benfro (CIC Addysg a Grymuso Cymunedol Sir Benfro (PEACE).