Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Nod y Labordy Arloesedd hwn yw cefnogi cymunedau gwledig i dyfu, coginio a bwyta gyda’i gilydd trwy sefydlu rhwydwaith bwyta cymunedol. Bydd y prosiect yn ceisio uno pobl mewn mannau gwledig trwy baratoi a rhannu bwyd maethlon, sy’n cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy ac yn ei dymor. Mae hefyd am greu cyfleoedd cymdeithasol cynhwysol fydd yn lleihau unigrwydd, ynysu, a heriau iechyd, ac yn dathlu bwyd a diwylliant lleol ar yr un pryd.

Mae’r prosiect yn gweithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gyda sefydliadau sydd eisiau rhoi prawf ar ddulliau newydd a siriol o ddwyn pobl at ei gilydd trwy gyfrwng bwyd. Ymysg y pentrefi sy’n cymryd rhan mae Clyfyw, Sain Nicolas a’r Cilgwyn yn Sir Benfro; Llan-gain yn Sir Gaerfyrddin; a Phonterwyd a Llanrhystud yng Ngheredigion.

Mae tair elfen graidd i’r prosiect arloesol:

  • Ymgynghori creadigol i ddwyn y gymuned ehangach i mewn i lunio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer prydau cymunedol.
  • Mentoriaid a chogyddion fydd yn darparu cefnogaeth wedi ei deilwrio i bob prosiect, gan ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd, cynaliadwyedd, cyllid,  rysetiau i ysbrydoli, a defnyddio cynnyrch lleol.
  • Cynhyrchu Pecyn Cymorth a fideos byrion i gofnodi a rhannu’r daith ddysgu, ac ar yr un pryd, cynhyrchu gwybodaeth fydd yn dymchwel rhwystrau er mwyn annog cymunedau eraill.

Trwy’r gwaith hwn, nod y prosiect yw taflu goleuni ar y modd y gall bwyta’n gymdeithasol lwyddo mewn lleoliadau gwledig, ysbrydoli cymunedau eraill ledled Cymru, a rhannu gwersi gyda’r sawl sy’n llunio polisïau. Wrth wneud hynny, y nod yw sicrhau bod sefydliadau ar lawr gwlad yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i sefydlu a chynnal gwasanaethau bwyd gwledig.

Cam cyntaf y broses oedd Digwyddiad Ymgynghori Creadigol gyda phob un o’r cymunedau. Gallwch weld crynodeb o bob un o’r digwyddiadau hyn ar y dolenni canlynol:

Clynfyw, Sir Benfro

Sain Nicolas, Sir Benfro

Fferm Cilfair, Sir Benfro

Llan-gain, Sir Gaerfyrddin

Ponterwyd, Ceredigion

Llanrhystud, Ceredigion