Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Mae’r elfen Polisi sy’n rhan o amcanion Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn gwbl hanfodol i’n dyhead i sicrhau newid yng nghymunedau gwledig Cymru. Gan ddefnyddio’r data, y dystiolaeth, a’r mewnwelediadau a gafwyd drwy’r prosiectau (gweler adroddiadau’r prosiectau unigol yma), rydym wedi datblygu cyfres o bapurau briffio polisi, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi llunwyr polisi ar bob lefel llywodraeth a’r rheiny sydd am sicrhau newid polisi. Mae’r briffiau hyn yn casglu’r prosiectau yn gyfres o argymhellion ymarferol y gellir eu gweithredu er mwyn cefnogi’r rhai sydd â’r potensial a’r dylanwad i sicrhau newid gwirioneddol. Dyma newid a gefnogir gan dystiolaeth.

Gweler isod y papurau briffio ar bolisi sydd ar gael i’w lawrlwytho. I gael copïau o’r adroddiadau llawn, ewch i’n hadran Adnoddau.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod unrhyw un o’r argymhellion yn y dogfennau hyn.

Camau nesaf i fenywod o ran arallgyfeirio yn y maes ffermio yng Nghymru

Mae’r polisi hwn yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer menywod ym maes arallgyfeirio ffermio yng Nghymru.

Deall twf o
safbwynt
gwledig

Nod y gwaith ymchwil hwn oedd adnabod sut y mae’r sawl sy’n byw ac yn gweithio mewn trefi gwledig yng
Nghymru yn canfod twf o ran busnes a datblygu cymunedol.

Maniffesto

Lluniwyd y Papur Briffio Maniffesto hwn gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales, gyda’r nod o gynnig awgrymiadau i bob plaid wleidyddol ar gyfer polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’n gwaith a phrosiectau ymchwil cysylltiedig, gan fod y pleidiau wrthi’n ysgrifennu eu maniffestos cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2025.

Gan ei bod yn fenter ymchwil wrthrychol, nid yw Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cynrychioli unrhyw fuddiant personol. Nid yw’r Papur Briffio Maniffesto yn cyflwyno cyfres o ‘ofynion’, ond yn hytrach yn cynnig 33 o syniadau polisi a allai wneud gwahaniaeth.

Gallwch lawrlwytho’r ddogfen friffio yma, ac mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr argymhellion neu os gallwn eich cefnogi i ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Papur Briffio Maniffestos – Polisiau gwledig

Mae’r Briff Maniffesto hwn yn amlinellu syniadau polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n ‘barod ar gyfer maniffesto’ i’w mabwysiadu gan bleidiau sy’n cystadlu yn etholiadau Senedd 2026.