Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (Cymru Wledig LPIP Rural Wales) am wahodd ceisiadau gan ymchwilwyr ym mhrifysgolion y DU i gynnal prosiect ymchwil byr i fynd i’r afael â mater sy’n ymwneud ag economi, cymdeithas neu ddiwylliant Cymru wledig pan fo rhanddeiliaid wedi nodi’r angen am ddata, tystiolaeth ac/neu ddadansoddiad pellach i gefnogi llunio polisïau effeithiol.

Dyma’r pynciau yr ydym yn gwahodd cynigion arnynt:

  1. Dynameg y farchnad lafur yng nghefn gwlad Cymru: swyddi gwag, cyfleoedd a heriau recriwtio
  2. Clystyru daearyddol sectorau busnes yng nghefn gwlad Cymru
  3. Cyflogaeth a darpariaeth y Sector Gofal yng nghefn gwlad Cymru
  4. Mapio rhwydweithiau, partneriaethau a chynghreiriau llesiant y trydydd sector a chymunedau yng Nghymru
  5. Cyfraniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol diffoddwyr tân ar alwad yng nghefn gwlad Cymru
  6. Modelau Busnes ar gyfer Mentrau Cymunedol
  7. Beth allwn ni ei ddysgu o sut mae mudiadau cymunedol a diwylliannol yn ymgysylltu ac yn gweithredu polisïau sero net?
  8. Deall gweithwyr llawrydd creadigol yng nghefn gwlad Cymru
  9. Y Gymraeg yn galluogi neu’n rhwystro mewn prosiectau cydweithredol
  10. Modelu’r galw am lafur a sgiliau ar gyfer cyflawni Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru wledig
  11. Manteisio ar Fuddion Cymdeithasol Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy sy’n Berchen i’r Gymuned
  12. Sut y gallai gwarant Seilwaith Sylfaenol Cyffredinol weithio i Gymru Wledig?
  13. Modelau ar gyfer Cryfhau Prawfesur Gwledig yng Nghymru
  14. Cynrychiolaeth o Fuddiannau Cymunedol Gwledig yng Nghymru
  15. Hyrwyddo Cyfnerthedd Diwylliannol a Llesiant ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Mae briff ar gyfer pob un o’r pynciau hyn i’w gael yma. Dylai prosiectau ymchwil fynd i’r afael â gofynion y briff a gwahoddir ymgeiswyr i lunio a chynnig strategaeth a methodoleg ymchwil sy’n briodol i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Rhagwelir y bydd y prosiectau’n cynnwys ymchwil desg ac ar-lein yn bennaf, gan gynnwys dadansoddi data eilaidd, ond mae cyfle i gasglu rhywfaint o ddata cynradd newydd, er enghraifft trwy gyfweliadau, grwpiau ffocws neu arolygon, o fewn yr amser a’r cyllid sydd ar gael.

Dylid cwblhau prosiectau dros gyfnod o ddim mwy na chwe mis, gyda chyllid o hyd at £15,000 o’r gost economaidd lawn ar gael i gefnogi’r gwaith. Dyfernir hyd at ddeg prosiect, ac un prosiect yn unig ar bob pwnc a gaiff gyllid.

Mae cyllid yn ddarostyngedig i delerau ac amodau UKRI ac felly dim ond ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion yn y DU neu sefydliadau ymchwil eraill a gydnabyddir gan UKRI sy’n gymwys i wneud cais. Nid oes angen i chi fod wedi’ch lleoli yng Nghymru i wneud cais.

Mwy o wybodaeth a manylion sut i wneud cais.

Ffurflen gais

Dyddiad cau derbyn ceisiadau 16 Chwefror 2026, 09:00.