Yn dilyn yr ail alwad am geisiadau gan sefydliadau cymunedol yn ystod haf 2025, roedd LPIP Cymru Wledig, mewn cydweithrediad â’i bartner strategol, Gyda’n Gilydd Dros Newid, yn falch o gadarnhau’r chwe sefydliad llwyddiannus yr hydref hwn, yn dilyn nifer gyffrous a brwdfrydig o geisiadau.

Dewiswyd y ceisiadau llwyddiannus o gymunedau amrywiol yn ardaloedd gwledig Cymru, sy’n dod ag ystod ddiddorol o flaenoriaethau, materion lleol a phryderon, yn ogystal ag angerdd gwirioneddol dros greu newid yn eu cymunedau. Rydyn ni’n falch iawn o enwi’r sefydliadau llwyddiannus a’u nodau prosiect isod.

Fodd bynnag, er bod llawer o sefydliadau yn derbyn cyllid, mae nifer fawr o gymunedau ledled Cymru, a thu hwnt, yn parhau i fod â syniadau neu gynigion gwych eu hunain ond sydd angen arweiniad ac arian arnynt i ddod â’u prosiectau i ffrwyth. Felly, mae Gyda’n Gilydd Dros Newid, mewn partneriaeth â LPIP Cymru Wledig, wedi creu cyfres o seminarau a gweminarau ar wahanol bynciau i gynghori, hyfforddi ac ysbrydoli grwpiau cymunedol eraill. Gan lansio ym mis Ionawr 2026, rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dilyn eu prosiectau cymunedol eu hunain neu sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â’r gymuned i ymuno â’r rhaglen wych hon o 14 gweithdy a seminarau.

Cyhoeddi’r chwe phrosiect cymunedol llwyddiannus

Cwmni’r Frân Wen, Bangor

Mae prosiect CARREG yn ymateb i argyfwng tawel sy’n wynebu’r sector amaethyddol ifanc: straen economaidd, newidiadau demograffig, pwysau gwaith a’r ynysu sy’n gysylltiedig â bywyd amaethyddol. Mae prosiect CARREG yn cyfuno’r angen cymdeithasol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig gyda’r dulliau creadigol sydd eisoes yn rhan o fywyd a hunaniaeth y gymuned.

Bydd y prosiect yn cryfhau cydlyniant drwy greu lle i’r gymuned ddod at ei gilydd a chydnabod y problemau sydd ganddynt yn gyffredin, tra bydd y gwaith yn sicrhau bod straeon gwledig a phrofiadau amaethyddol yn rhan o sgwrs genedlaethol, gan roi llais i gymuned sydd fel arfer ar ymylon y drafodaeth ddiwylliannol.

Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen, Llandysul (Ceredigion)

Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut i gyfuno diwylliant, economi a lles yn well i gefnogi adfywio yn nhref wledig Llandysul yng nghanolbarth Cymru; ail-ddychmygu Llandysul fel tref fach gysylltiedig a bywiog: cysylltu diwylliant, yr economi a lles ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect yn archwilio materion sy’n bwysig i drigolion lleol, megis defnyddio asedau lleol; archwilio rôl diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth Cymru wrth ysgogi menter leol; ac ystyried sut y gall trafnidiaeth, cysylltedd digidol a mannau cynhwysol gryfhau lles a chyfranogiad.

Mae pwysigrwydd y gwaith hwn yn ymwneud â rhoi llais cryfach i’r gymuned wrth lunio ei dyfodol ei hun. Yn rhy aml, mae adfywio wedi’i gynllunio o’r tu allan; bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod tystiolaeth a blaenoriaethau yn dod yn uniongyrchol gan drigolion eu hunain. Drwy hyfforddi ymchwilwyr cymunedol a defnyddio dulliau cyfranogol, bydd y prosiect hefyd yn meithrin sgiliau, hyder ac arweinyddiaeth leol.

Partneriaeth Dyffryn Peris

Wedi’i leoli yng ngogledd-orllewin Cymru, ger Llanberis, bydd partneriaid y prosiect yn gweithio gyda’r gymuned i ddod o hyd i atebion cyfannol i’r argyfwng tai, iaith a hinsawdd yn ardal Dyffryn Peris. Nod y prosiect yw archwilio gwahanol fodelau o dai dan arweiniad y gymuned, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol, ac edrych ar sut i’w datblygu fel ymateb i’r argyfwng tai yn lleol.

Bydd Partneriaeth Dyffryn Peris yn edrych ar y materion hyn mewn ffordd sy’n grymuso cymunedau drwy ofyn pa fodelau sy’n cael eu cefnogi’n lleol. Sut maen nhw’n diogelu gwead ieithyddol cymuned drwy greu cartrefi carbon isel dan arweiniad y gymuned? Sut maen nhw’n gallu dangos yr angen, y cyfleoedd a’r dylanwad ar adolygiadau polisi cynllunio a Chynlluniau Datblygu Lleol wrth wneud hynny? Sut mae dysgu o brosiectau tebyg ledled Cymru ac ychwanegu elfen o amddiffyniad ieithyddol i’r gwaith?

Cwmni Buddiant Cymunedol Pembrokeshire Education and Community Empowerment (PEACE)

Mae ‘Climate and Community: Empowering Migrant and Global Majority Communities in Pembrokeshire for a Sustainable Future’ yn brosiect sy’n deillio’n uniongyrchol o sgyrsiau lleol a phrofiadau bywyd cymunedau mudol a mwyafrif byd-eang yn Sir Benfro.

Mae rhwystrau iaith, mynediad cyfyngedig at wybodaeth a diffyg enghreifftiau diwylliannol-berthnasol yn golygu nad yw pobl bob amser yn gwybod sut maen nhw’n gallu cyfrannu at ddyfodol sero-net neu elwa ohono. Mae rhai yn ansicr ble i ddechrau, mae eraill yn teimlo nad yw gweithredu amgylcheddol ‘ar eu cyfer nhw’ am nad ydyn nhw erioed wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan. Nid yn unig y bydd gallu deall syniadau fel ynni adnewyddadwy, lleihau gwastraff a thyfu bwyd yn eu hiaith eu hunain yn gwneud y wybodaeth yn fwy hygyrch, bydd hefyd yn rhoi adnoddau ymarferol i bobl arbed arian, gwella iechyd a dod yn fwy hunangynhaliol. Bydd mwy o ymgysylltu a sgyrsiau â gwahanol gymunedau yn galluogi tîm PEACE i gasglu tystiolaeth glir o’r hyn sydd ei angen i wneud gweithredu amgylcheddol yn Sir Benfro yn wirioneddol gynhwysol. Mae modd rhannu hynny gyda chynghorau, sefydliadau amgylcheddol a grwpiau cymunedol i lunio prosiectau a pholisïau mwy hygyrch. Bydd hefyd yn darparu’r wybodaeth a’r hyder i unigolion gymryd camau yn eu cartrefi a’u cymdogaethau eu hunain, o dyfu bwyd i leihau gwastraff a defnyddio ynni mewn ffordd fwy effeithlon. Mae’r tîm hefyd yn disgwyl i’r gwaith ymchwil feithrin cysylltiadau newydd rhwng cymunedau.

Siop Griffiths Cyf (Yr Orsaf), Dyffryn Nantlle, Gwynedd

Gan holi sut mae modd i gynhyrchwyr llysiau a ffrwythau lleol gyflenwi eu cynnyrch i drigolion mewn modd fforddiadwy, ac mewn modd cynaliadwy i fanwerthwyr lleol, bydd y prosiect hwn – Yr Orsaf – yn cydweithio â ffermydd lleol i edrych ar pa mor effeithiol fyddai Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy; defnyddio talebau “Cychwyn Iach” ar gyfer bagiau llysiau; a chynnig cymorth a chyllid i bobl o ran cynyddu hygyrchedd i ffrwythau a llysiau fforddiadwy. 

Bydd Yr Orsaf yn creu fforwm bwyd cynaliadwy, fel corff cymunedol sy’n arwain yr ymchwil, a fydd yn ymgysylltu â gweithwyr tir a chynhyrchwyr, gan archwilio pa heriau maen nhw’n eu hwynebu, eu gobeithion a’u cynlluniau, pwy yw eu cwsmeriaid a’u dulliau o ymgysylltu â’r boblogaeth.

Eryri-Bywiol Cyf Eryri-Egnïol, Caernarfon

Llyn Padarn, Llanberis, yw un o’r llynnoedd naturiol mwyaf yng Nghymru. Bydd y prosiect hwn yn datblygu dull cydweithredol o reoli Llyn Padarn sy’n seiliedig ar ddalgylch, gan ddod â llu o randdeiliaid at ei gilydd i nodi blaenoriaethau ar gyfer rheoli hamdden a sut i integreiddio eu gweithredoedd a’u hadnoddau er mwyn eu cyflawni. Bydd yr ymchwil yn nodi cyfleoedd i gysylltu pobl â’r amgylchedd wrth iddyn nhw ddod yn rhan o’r prosiect a pherchnogi Llyn Padarn.

Yn y tymor hir, bydd Partneriaeth Rheoli Dalgylch Llyn Padarn yn galluogi model cynaliadwy, rhagweithiol sy’n gweithio gyda’r gymuned i fynd i’r afael â meini tramgwydd a nodi cyfleoedd sy’n deillio o hamdden, gan gyfrannu at y thema o feithrin economi adfywiol. Efallai y byddai’n bosibl defnyddio’r un dull gyda chyrff dŵr eraill yng Nghymru.