Welcome to LPIP Rural Wales

Please select your desired language


Croeso i Cymru Wledig LPIP

Dewiswch eich iaith ddymunol

Isod mae nifer o adnoddau sy’n cefnogi gwaith Cymru Wledig LPIP Rural Wales a’n rhanddeiliaid. Nod y taflenni hyn ac Adroddiad Blynyddol 2025 yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith difyr a hanfodol sy’n cael ei wneud gan ein timau ymchwil.

Cliciwch isod i lawrlwytho copïau o’n taflenni, neu mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gopi caled o’r rhain neu eu cael ar fformat arall.

Am ragor o adnoddau a chymorth, mae croeso i chi gysylltu â thîm LPIP drwy e-bost neu ffôn.

Troseddau Fferm a Chefn Gwlad yng Nghymru 2025

Canfyddiadau Ffermwyr am Droseddau Fferm a Gwledig yn ardal Heddlu Dyfed-Powys

Crynodeb Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Adroddiad blynyddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Esblygiadau yn systemau
bwyd yng Nghymru Wledig


Fideo

Mae’r ffilm ‘Am Ein Bywydau’, a gomisiynwyd gan Cymru Wleding LPIP Rural Wales ar y cyd gyda Pontio, yn waith newydd gan y gwneuthurwr ffilm Rhys Edwards. Mae’r ffilm yn myfyrio ar y cysylltiadau dwfn rhwng pobl, tirwedd a threftadaeth byw. Trwy leisiau Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, mae’n archwilio sgiliau traddodiadol, gwybodaeth am natur, a’r enwau lleoedd sy’n gwreiddio yn ein cymunedau.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ymchwil ehangach sy’n archwilio i dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol cymunedau gwledig yng Nghymru. Bydd addroddiad llawn y prosiect yn cael ei gyhoeddi, ac ar gael I lawrlwytho o’r wefan yn y Gwanwyn, 2026.


Adroddiadau Prosiectau

Ers ei sefydlu yn 2024, mae ymchwilwyr Cymru Wledig LPIP Rural Wales wedi cwblhau nifer o brosiectau hanfodol ac mae nifer o brosiectau eraill yn dal ar y gweill. Bydd prosiectau ac arolygon newydd yn dechrau yng ngwanwyn 2026. Caiff y dudalen hon ei diweddaru wrth i adroddiadau a dadansoddiadau gael eu cwblhau.

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiadau ar bob prosiect isod: cliciwch ar y teitl i’w lawrlwytho.

Canfyddiadau o dwf mewn dwy dref farchnad Gymreig

Deall twf o safbwynt gwledig

Y camau nesaf i fenywod yn ffermio

Aethpwyd ati i ddadansoddi nifer o’r adroddiadau hyn ymhellach er mwyn llunio dogfen friffio ar Bolisi, sef bod yr Ymchwilwyr wedi defnyddio canlyniadau’r prosiectau i gynnig nifer o argymhellion i lunwyr polisi. Rydym yn ychwanegu at y llyfrgell hon wrth i ddogfennau ychwanegol gael eu cwblhau. Gallwch ddod o hyd i’r holl friffiau polisi a’n dogfennau briffio ar gyfer maniffesto yma.

I gael rhagor o adnoddau a chymorth, mae croeso cynnes i chi gysylltu â thîm LPIP drwy anfon e-bost neu ffonio.